MRS. ELIZABETH MOSES. SLATINGTON, PENNSYLVANIA.

Merch ydoedd Elizabeth Moses i William Jones, Dolhelyg, ger Bangor, Gogledd Cymru.

Ganwyd hi yn y flwyddyn 1794. O du ei thad, dysgynai o linach rhai o esgobion ac offeiriaid Eglwys Loegr, nifer o olynwyr pa rai sydd yn awr yn gweini yn y swydd sanctaidd yn Arfon a Meirion.

O dy ei mam, dysgynai o deulu hynod iawn am eu hymlyniad. oes ar ôl oes, wrth y gelfyddyd feddygol. Y mae rhai o honynt yn awr yn Llanllyfni, Ffestiniog. a.y. - yr hen Griffith a R. Roberts a'u meibion, y diweddar Ddoctoriaid Roberts, Oakland, ger Llanrwst; 0. O. Roberts, Bangor, ac hen feddygon myddfai, y rhai oeddynt feddygon da eu hunain. Hawliai y teuiu ddysgyniad oddiwrth Owain Gwynedd ar ran gwrthrych ein cofiant, ac oddiwrth Owain Glyndwr ar ran ei gŵr.

Yn 1817 ymunodd mewn glân briodas â John Moses, mab Moses Thomas, Tyddyn Uchaf, ger Bangor. Ni wyddis nemawr am ei henafiaid ef ond eu bod megys cewri yn mhlith dynion, o ran maintioli corpborol; yn adnabyddus fel darllenwyr nodedig a meddygon gwerthfawr. Ymddengys iddo ef deimlo argraffiadau crefyddol yn foreu, fel yr ymunodd a'r Annibynwyr pan tuag 21 mlwydd oed.

Ymddengys iddo arfer ei ddawn ychydig i bregetbu yr efengyl gyda'r enwad uchod (yn cael ei gynghori a'i gyfarwyddo gan y Parch. A. Jones, Bangor,) ac ar ôl hyny gyda'r Bedyddwyr. Ond yr oedd yn bur anghyfleus iddo ganlyn yr enwad hwn, gan nad oedd ond megys dyrnaid o honynt, a'r rhai hyny yn "bur wasgaredig ar hyd yr ardaloedd hyny, ac felly ymunodd a'r Annibynwyr eilwaith yn Bethesda, Arfon, lle y bu yn aelod dychlynaidd am rai blynyddoedd.

Adroddir yr hanesyn canlynol am dano. Rhyw noson gyfeillach yn Bethesda, yr oedd adnod neillduol dan sylw, a dywedodd John Moses ei feddwl yn gyntaf. Nid oedd yspryd yn neb arall i ddweyd dim pellach ar y pwnc. Anogai ef hwynt i ddweyd; ond ni wnaent. Tybiodd yntau fod ei bresenoldeb ef yn rhwystr, a dywedodd, "Frodyr, ni fynwn er dim fod yn rhwystr i chwi, ac fel prawf o hyny, myfi a af yn ôl eto at enwad y Bcdyddwyr." Codai ac ysgydwai law a'r holl ddiaconiaid, ac yn olaf aeth at y Parch. Llewelyn Samuel, ond gwrthodai efe ysgwyd llaw, a dywedai nad oedd arno eisiau iddo ymadael a hwynt. Ond ymadael a wnaeth, ac yn y man y dysgynodd y tro hwn y bu tra parhaodd ei yrfa ddaearol.

Bu farw Mai 12fed, 1840, yn 52 mlwydd oed, wedi dal perthynas ag Eglwys Dduw am 31 o flynyddoedd. Parbaodd y teulu i lynu wrth yr Annibynwyr. Proffesodd Jane, y ferch hynaf, ei ffydd yn Nghrist am oddeutu 10 mlynedd; ymunodd Mari, yr ail ferch, â chrefydd pan yn 18 mlwydd oed; ac Ann y ferch ieuengaf, pan yn 17 mlwydd oed, a pharhausant yn aelodau dychlynaidd gyda'r enwad hwn hyd ddydd eu marwolaeth. Yn mhen tuag wyth mlynedd wedi ei gadael yn ddiymgeledd drwy farwolaeth ei gŵr, penderfynodd Mrs. Moses ymfudo i America; yr hyn a wnaeth gydag Eliais ei mab a'i dwy ferch ieuengaf yn y flwyddyn 1848.

Sefydlodd yn y Gap Fawr (LehighGap)ger Slaíington; ac oddiwrth yr amgylchiad hwn, a'r ffaith iddi fyw yn y Gap am dymhor maith, nes cyrhaed oedran a chysylltiadau parchus, a derbyn llawer o blant i'r byd, y cafodd y teitl adnabyddus o "Nain Gap" neu "Nain o'r Gap," wrth yr hyn yn fwy na dim yr adnabyddid hi hyd ei bedd.

Yr achos crefyddol Cymreig agosaf i'r Gap oedd eiddo'r Calfiniaidd Methodistaidd yn Slatington, lle y cydaddoìai y gwahanol enwadau ar y pryd, ac a'r hwn yr ymunodd hithau, hyd nes yr adferodd amgylchiadau i'r Annibynwyr sefydlu achos ar wahan yn 1859, gyda pha rai yr ymunodd hithau, ac y parhaodd yn aelod ffyddlon a pharchus hyd ei bedd.

Amcan mawr ei bywyd oedd harddu ffyrdd sancteiddrwydd yn ofn Duw, yn yr hyn y llwyddodd hyd nes yr adnabyddid hi fel dynes grefyddol drwy yr holl wlad. Er y gallasai ymffrostio mewn perthynasau daearol, yr oedd ei pherthynasau hi o uwch gradd a sefyllfa na phethau daearol. Yn y nef, ei seintiau, a'i angelion santaidd yr ymffrostiai hi; ond yn benaf oll yn ei Harglwydd Iesu Grist, ei Phrynwr byw a'i Hanwylyd. Hiraethai yn fawr am gymdeithas y saint ar y ddaear, ond yn fwy am gael bod gyda Christ, canys yr oedd o'r un profiad a'r apostol mai "llawer iawn gwell ydyw."

O'r diwedd daliwyd hi gan henaint a nychdod; daeth ar ei gwarthaf dymhor y "dyddiau blin" yn y rhai nid oedd iddi hi ."ddim dyddanwch" daearol. Ymosododd clefyd yr Afu arni hi gyd'r fath ffyrnigrwydd, fel nas gallodd na dysg, na dawn, na medr na gwybodaeth feddygol lwyddo i'w drechu. O'r diwedd darostyngodd hi i gyflwr o nychdod a gwendid mawr; er hyny cadwodd ei galluoedd deallol, hyd y mynydau olaf - adnabyddai bawb - siaradai yn eglur - a chwynai ond ychydig.

Tra yn ei chystudd, canmolai ras Duw tuag ati, gorfoleddai yn y rhagolwg ar y mwynliad a gaffai yn fuan yn yr orphwysfa nefol, a gwaeddai yn aml, "O Arglwydd Iesu, derbyn fy yspryd:" "O Iesu anwyl, cymer fi o'm poenau; ond, gwneler dy ewyllys ar y ddaear." Ewyllysiai yn fawr gael ei gollwng yn ebrwydd o'i phoenau, a myned i mewn i'r orphwysfa nefol, i fwynhau tragwyddol bwys gogoniant. Ond yn nghyswllt a phob dymuniad o'r fath, nid ewyllysiai groesi dim ar drefn Duw tuag ati. Bryd arall dywedai y dymunai yn fawr gael aros gyda'i mab ychydig eto, ond dywedai eilwaith yn sydyn, "Gwneler dy ewyllys." Cydnabyddai fod crefydd yn talu ei ffordd yn ei chystudd, a diolchai am dani.

Pan ar ei gwely angau, dywedai wrth ei hwyres, gyda phwyslais neillduol, "Cofia yn awcr dy Greawdwr, yn nyddiau dy ieuenctyd. Yr wyf fi yn myned i le gwell - i'r nefoedd, ymdrecha dithâü ddyfod yno ar fy ôl." Adroddai wrthi yn glir a synwyrol, a llawer gwaith drosodd yr hen benillion anwyl

"O! 'r Iachawdwriaeth fawr yn Nghrist a.y."
" Mewn bywyd mae gwasanaethu Duw a.y."

Galwai ar fab ei merch ati, a dywedai wrtho yntau "Fy machgen anwyl i, gochel fod yn annuwiol; rhodia ar hyd llwybrau cyfiawnder tra pery dy oes." A dywedai wrth ei mab, pan yr wylai efe yn chwerw o herwydd ei dioddefiadau "Paid wylo, Elias, yr wyt yn gofidio fy nghalon i - paid wylo o'm plegid i; yr wyf fi yn myned i le gwell - i'r nefoedd, at fy Iesu anwyl, a thyred dithau yno ar fy ôl." Os oes rhywbeth mewn gweddiau taerion mam, a chynghorion difrifol Cristion ar wely angau, y mae yn ddiau fod ynddynt y rhwymedigaethau trymaf i'r teulu hwn; a'n dymuniad yw ar fod i Dduw o'i ras eu bendithio er iachawdwriaeth y mab, yr wyr, a'r wyres.

Bu farw Ionawr 9fed, a'i ffydd yn gafael yn ngwrthrych ei hymddiried, a'i llygaid yn gweled ei iachawdwriaeth, a'i thafod yn datgan ei fawl, ac yn dywedyd

"Cyfaill yw yn afon angan
Ddeil fy mhen i uwch y don;
Golwg arno wna'i mi ganu;
Yn yr afon ddofn hon."

Ionawr lleg claddwyd hi yn mynwent capel Slatington, yn ngwydd tyrfa mor fawr, ac mor barchus ag a welwyd erioed ar amgylchiad cyffelyb yn yr ardaloedd hyn, pryd y gweinyddwyd gan yr ysgrifenydd.

Y nos Sabboth canlynol, traddodwyd pregeth angladdol ar ôl yr hen chwaer dduwiol, oddiwrth Matt. 24: 44, "Am hyny, byddwch chwithau barod, canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn."

Heddwch i'w llwch, a nefoedd i'w henaid.
TAVALAW.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mawrth 1868.