MRS. ELINOR OWEN JONES. FAIRHAVEN, MASSACHUSETTS.

Wele ychydig o nodion coffadwriaethol am fy ngwraig Elinor Owen, yr hon a anwyd yn Eila, plwyf Llanbedr, ger Conwy, yn y flwyddyn 1813, ac a fu farw yn Fairhaven, Gogledd America, yn 1867.

Aeth at grefydd pan yn 14 oed. Y peth fu yn achlysur i gynhyrfu ei meddwl tyner oedd hyn. Aeth gyda ei chyfoedion (fel yr oedd yn arfer y pryd hwnw) i'r Gosber Canwyllau i eglwys y plwyf, ac effeithiodd anniwair ymarweddiad yr anniweiriaid gymaint ar ei theimlad fel y bu yn effeithiol dan lywodraethiad a goruwch reoleiddiad y Duw mawr i'w dwyn i gyrhaedd gweinidogaeth trugaredd trwy angau'r groes.

Arosodd yn ôl ar ôl y bregeth yn y gyfeillach grefyddol y nos Sabboth cyntaf wedi iddi fod yn y Gosber Canwyllau. Mr. Lewis o'r Henrhyd oedd yn pregethu. Gofynoddi Mr. Lewis a gai hi aros yn y Seiat. Dywedodd yntau wrthi fod iddi groesaw calon gan yr eglwys a chan Iesu Grist. Ac felly arosodd yn nhy yr Arglwydd hyd ddydd ei marwolaeth. Yr wyf yn meddwl mai yn Llanrwst gan y Parch. Evan Davies (Eta Delta) y derbyniwyd hi yn gyflawn aelod.

Ymunodd mewn priodas â'r ysgrifenydd Mai 14eg,1842, yn Nghapel Nebo ger Llanrwst, pryd y gweinyddodd y Parch. L. Everett, brawd y Dr. Everett, a bu imi yn ymgeledd gymwys yn nghyflawn ystyr y gair hyd oni'n gwahanodd angau. Yr oedd ynddi lawer o ragorion dymunol. Yr oedd yn feddianol ar synwyr cyffredin cryf, a deall cyflym a meddwl bywiog. Yr oedd yn bob peth oeddwn yn ei ddymuno gyda phethau y bywyd hwn, ac yn well o lawer na ngobeithion goreu hefo phethau crefydd a'r byd a ddaw.

Ei hafiechyd oedd y darfodedigaeth. Cafodd gystudd maith ond ei fod yn raddol, a goddefodd y cwbl yn dawel fel y gweddai i filwyr da Iesu Grist. Yr oedd byw yn dduwiol yn brifnod bywyd ganddi. Byddai yn arfer dweyd, Ni waeth i ni beidio proffesu heb fyw crefydd. Yr oedd ganddi barch mawr i weinidogion yr efengyl. Yr oedd Mr. Herbert ganddi fel canwyll ei llygad, a phob dyn rhinweddol yn gyffelyb. hyd eithaf fy ngwybodaeth ni bu yn ddolur llygaid na gofid calon i eglwys Dduw.

Bu farw y 5ed o lonawr, 1867, a'i phwys nid ar ei gweithredoedd da a'i bywyd duwiol, ond ar haeddiant anfeidrol ac Iawn digonol Iesu Grist a gwaed ei groes.

Pregethodd Mr. Herbert yn ei hangladd ar yr ymadroddion hyny, "Gwyn fyd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd, canys gorphwysant oddiwrth eu llafur, a'u gweithredoedd sydd yn eu canlyn hwynt." Ni byddai dim yn well genyf nag ymddangosiad y bregeth yn y CENHADWR.
DAVID OWEN.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ebrill 1868.