MRS. MARY RICHARDS. PENRHIWDAR, REMSEN, NEW YORK.

Ionawr 26ain, 1868, Mary, anwyl briod Mr. William S. Richards, Penrhiwdar, Remsen, New York.

Ganwyd Mrs. Richarrds yn Tŷ Mawr Mynyddog, Llangian. Bu yn ddiwyd gyda'r Ysgol Sabbothol, a gwrandaw y Gair, a.y. yn ei morwyndod yn Nghapel y Nant, Lleyn.

Priododd gyda William Richards yn y flwyddyn 1817, ac aethant i fyw i Penrhiwdar. Ymunodd â chrefydd, a bu yn aelod hardd a dichlynaidd yn Nghapel y Nant hyd ei symudiad i America; a dewisasant eu cartref newydd, fel lluaws eraill, yn y goedwig wyllt. Cawsant lafur caled i wneyd y coedtir yn ddoldir, ac yn eu tymhor hwn o lafur caled gyda'r byd, ni buont segur gyda chrefydd. Cawsant hwy ac ychydig eraill sefydlu Eglwys Penygraig, ac adeiladu dau gapel yno, y naill ar ôl y llall, a bu Mrs. Richard yn aelod ffyddlon a siriol i fyd-gynnal yr achos yno am 37 o flynyddau. Daeth hi a'i phriod i Remsen, i ymyl y capel, i fwynhau gwell hamdden i gael moddion gras yn eu henaint; ond yn mhen tair blynedd ar ôl y symudiad hwn, cafodd ei symud trwy angau i fwynhau purach cymdeithas yn y breswylfa fonydd, "y babell na thynir i lawr, ac ni syflir un o'i hoelion byth."

Cafodd fyw i henaint teg, a dwyn i fyny naw o blant, a'u dysgu y ffordd oreu i arfer y byd a chrefydd: a bu ei gweddiau yn daer, a'i bywyd yn syml a gonest, yn fendithiol trwy ei Duw i beri iddynt lynu gyda'r achos gyda mesur o ddiwydrwydd. Ac onid yw rhinweddau fel yr uchod yn sicrhau cyflwr da ger bron Duw, yn well na phroffes uchel heb weithredoedd da?

Hunodd y wraig ddedwydd hon yn yr Iesu, y dyddiad a nodwyd, yn 75 mlwydd oed, wedi dilyn yr Oen i ba le bynag yr elai am dros haner canrif, ac enw ei Dad ef yn ysgrifenedig yn ei thalcen. Mae ei hen briod wedi ei adael mewn dwfn alar yn gorphen addfedu, ac y mae ei ddalen ef yn lled ir, er ei fod ger yr ail linell derfyn - 80. Barnwr y gweddwon a'i dyddano.
THOMAS WILLIAMS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Awst 1868.