MR. EVAN J. THOMAS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Evan mab John Thomas a Catherine Ellis, Carrog ym mhlwyf Bryncroes.

Roedd Evan a'i frawd Ellis yn ffermio Carrog gyda eu rhieni.

Yn ei ewyllys a brofwyd yn 1835 gadawodd John Thomas £5 i'w wyres Catherine Griffith, merch ei ferch Elizabeth. I'w wyres Catherine Ellis, merch ei ferch Jane £5. Gadawodd ei stoc a'i eiddo yn Carrog i'w feibion Ellis Jones ac Evan Jones. Ond os oedd ei fab Evan yn priodi gyda Jane William Owen nid oedd i etifeddu dim ar ol ei dad ond un swllt.

Yng nghofrestr Eglwys Santes Fair Bryncroes gwelir ar 2/9/1840 fod Evan Jones, ffermwr, Carrog wedi priodi Jane William Owen o Cwt y Ger, plwyf Bryncroes, merch William Owen, Ysgol Feistr.

Yn 1840 ymfudodd Evan, Jane a Catherine, eu merch dwyflwydd oed i'r America.

Yn America prynnodd Evan fferm ym mhlwyf Remsen, ac o gyfrifiadau'r Unol Daleithiau gellir gwel ei fod yn berchen 100 erw o dir, 70 erw yn cael ei drin a 30 erw o goed. Ar ei fferm 'roedd yn cadw 3 ceffyl, 11 o wartheg godro, 3 o wartheg ieuanc, 7 dafad ac 8 mochyn. Tyfai ychydig o wenith ond y prif gnwd oedd ceirch ac yr oedd ganddo 120 hobaid o geirch yn 1860.

Yr oedd ganddynt o leiaf bump o blant. Catherine wedi ei geni yng Nghymru a Jane, Elizabeth, William ac Ellen wedi eu geni yn America.

Bu Evan J Thomas farw ar 29/7/1868 yn 66 blwydd a 7 mis.

Bu Jane Thomas farw ar 20/3/1886 yn 74 blwydd ac 11 mis.

Mae'r ddau wedi cael eu claddu ym mynwent Capel Penygraig yn Remsen.

Glyn Roberts ~ Medi 2021.