MRS. GWEN THOMAS. STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mrs. Gwen Thomas, priod Mr. William. A. Thomas, Steuben, a fu farw Mawrth 29ain 1868, yn 71 mlwydd a 23 o ddyddiau oed.

Claddwyd hi yn mynwent y Capel Ucha, a gweinyddwyd gan y brodyr, Roberts, Phillips ac Everett.

Merch ydoedd i Richard ac Elizabeth Abrams o blwyf Bryncroes, Lleyn, Gogledd Cymry - yr oedd yn chwaer i'r diweddar Mr. Willìam Prichard, Glyn, Steuben.

Ymfudodd hi a Mr. William A. Thomas o blwyf Llangian (yn agos i'r un gymydogaeth) i America yn y flwyddyn 1819. Daethant drosodd yn yr un llong, ac unwyd hwy yn yr undeb priodasol ar eu dyfodiad i New York, Mehefin 12fed, 1819, gan y diweddar haeddbarch John Williams, New York. Bu iddynt 8 o blant, ac y maent oll yn fyw, ond un mab a fu farw ychydig flynyddau yn ôl, ac a gladdwyd yn yr un fynwcut lle y gorwedda yn awr weddillion ei anwyl fam.

Derbyniwyd Mrs. Thomas yu aelod o eglwys y Capel Ucha (a Mr. W. A. Thomas tua'r un pryd) yn amser yr Adfywiad gwerthfawr a gawsom yn y flwyddyn 1838 - 30 o flynyddau i'r Gwanwyn presenol.

Un ddystaw, dawel a thangnefeddus oedd y chwaer hon trwy holl dymor ei phrofes - bu ei bywyd yn addurn i'r efengyl - a mwynhaodd gysuron crefydd a gobaith da trwy ras yn ei chystudd diweddaf. Ei chystudd oedd dra esmwyth - dim poen neillduol - ond diflanu a darfod yn araf a wnaeth - a diolchodd lawer i'r Arglwydd fod y cystudd mor esmwyth. Fel y bu fyw, bu farw mewn tangnefedd.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mai 1868.