MRS. MARY THOMAS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Mehefin 9fed, 1868, ger Rome, Mrs. Mary Thomas, gweddw Mr. William R. Thomas, crydd, diweddar o Remsen.Danfonwyd y corff i'r hen gymdogaeth a chladdwyd hi yn ochr ei gwr yn mynwent Capel Ucha, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Morris Roberts.
Un o ger Caernarfon ydoedd. Yr oedd wedi cyrraedd o 77 i 78 mlwydd o'i hoedran.
Yr oedd yn aelod crefyddol gyda'r Annibynwyr ers llawer o flynyddoedd.
MORRIS ROBERTS.