MR. EVAN WILLIAMS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Dydd Mercher, Hydref 21ain, 1868, yn ninas New York, ar ôl ychydig ddyddiau o gystudd, bu farw Mr. Evan Williams, Remsen, New York.

Yr oedd ef a'i briod wedi myned i lawr i New York ar daith o ymweliad â'i fab - ei unig fab yn awr. A chymerwyd ef yn glaf iawn y noson gyntaf y cyrhaeddodd yno, ac er pob ymdrech meddygol - y mwyaf medrus a ellid gael, - ac er pob ymgeledd ag oedd ddichonadwy gan ei anwyl briod a'i fab ac eraill, cynyddu yn gyflym a phrysur a wnaeth y cystudd nes terfynu ei einioes ymhen 4 neu 5 diwraod ar ôl cyrhaedd New York.

Galar a syndod mawr yn Remsen a'r cymydogaethau oedd clywed am yr amgylchiad trallodus hwn. Yr oedd Evan Williams yn hen sefydlydd yn swydd Oneida.

Brodor ydoedd o Leyn, swydd Garnarfon, Gogledd Cymry. Yr oedd yn ŵr tra pharchus a chyfrifol yn ei gymydogaeth ac yn mhlith ei gydnabyddion. Llawer a ddysgwyliwyd gan ei gyfeiüion crefyddol, a hyny er's blynyddau, ei weled yn uno ag eglwys Dduw. Yr oedd yn gyffredin yn teimlo fel pe buasai pobl Dduw yn bobl iddo yntau, a'i ofal yn gyffredinol am achos yr efengyl. Yr oedd yn wrandawr astud, ac yn un o'r ffyddlonaf gyda'r ysgol Sabbothol bob amser, a phan ddygwyd ei blant, flynyddau yn ôl, un ar ol y llall, i fwynhau gobaith yr efengyl a chysuron crefydd yr oedd yn cyd lawenhau mewn dagrau gyda hwy ac yn benderfynol iawn yntau hefyd i ddyfod ymlaen i uno gyda phobl Dduw, ond ni wnaeth hyny, yr hyn fu yn ofid i'w gyfeillion anwylaf.

Oed Evan Williams oedd tua 62 mlwydd.

Yn ei gladdedigaeth, gweinyddwyd yn y tŷ gan Mr. Phillips, ac yn y Capel Ucha, Steuben, i dyrfa fawr a difrifol gan y brodyr Cadwaladr, Williams Remsen, Everett a Griffiths, New York. Y testynau oeddynt Ioan 14: 38; l Cor. 7: 30 y rhan gyntaf. Y symudiad sydyn ac annysgwyliadwy hyn sydd yn rhybudd difrifol i ni oll i beidio ymffrostio o'r dydd yfory, gan na wyddom beth a ddygwydd mewn diwrnod.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Tachwedd 1868.