MR. HENRY WILLIAMS. WEST BANGOR, PENNSYLVANIA.

Nid oes yn holl lenyddiaeth y byd, nac yn ngair y gwirionedd ei hun, ymadroddion ag y mae sylw a phrofiad plant dynion yn dwyn tystiolaeth sicrach ì'w gwirionedd na geiriau y Pregethwr - "Canys ni wyr dyn chwaith ei amser: fel y pysgod a ddelir yn y rhwyd niweidiol, ac fel yr adar a ddelir yn y delm; felly y delir plant dynion yn amser drwg, pan syrthio arnynt yn ddisymwth." Ganol dydd ddydd Gwener, y 3ydd o Ionawr, yr oedd y brawd Henry Williams yn cychwyn at ei waith, yn siriolach na chyffredin; ond cyn pen yr awr yr oedd yn cael ei gario adref wedi ei anafu mor fawr, fel na fu byw ond hyd 10 o'r gloch nos dranoeth, pryd yr aeth ei ddaiaroldŷ mor annghymwys i'r enaid anfarwol breswylio ynddo, ac y dychwelodd yr ysbryd at Dduw yr hwn a'i rhoes ef.

Ymfudodd Mr. H. Williams i America yn y flwyddyn 1847, o'r Felin Hen, Llandegai, Gogledd Cymry, lle y cafodd ei eni, ac y treuliodd ei oes hyd adeg ei ymfudiad. Ymunodd â chrefydd rai blynyddoedd cyn hyny gyda y T. W., yn nghapel Soar, gerllaw Bangor. Cyn hir wedi iddo ddyfod i'r gymydogaeth yma, wrth weled ynddo dalentau uwch, a bod ganddo wybodaeth helaethach na'r cyffredin, annogwyd ef gan ei frodyr i ddechreu pregethu. Ac felly y parhaodd yn bregethwr cynorthwyol yn y Cyfundeb hwnw dros amryw flynyddoedd, hyd nes iddo trwy ei arferiad â'r pethau meddwol, syrthio yn waradwyddua, a myned hefyd yn gaeth i'w brif elyn. Nid pethau i neb, yn enwedig pregethwyr yr efengyl, i gellwair â hwy, ydyw y pethau sydd yn meddwi.

Rhyw wyth mlynedd yn ôl, torwyd y llyffetheiriau oedd yn ei ddal, trwy amlygiad neillduol o drugaredd yn gorfoleddu yn erbyn barn, a diangodd yntau fel yr aderyn o fagl yr adarwr, trwy lafur diflino, a gweddiau a dagrau dibaid ei frawd, y Parch. John Williams, gweinidog yr Eglwya Annibynol yn West Bangor. Haws i'r dârllenydd ddyfalu teimlad y Parch. Mr. Williams yn yr amgylchiad presenol nag i neb geisio ei ddyweyd. Yn lled fuan wedi i Mr. H. Williams ddychwelyd i'r eglwys yr ail dro, annogwyd ef gan ei frodyr i ddechreu pregethu drachefn. Nid yn gymaint oddiar ei fod yn feddiannol ar dalentau a deall y tro yma, ag oddiar fod cyfnewidiad amlwg yn ei ysbryd a'i rodiad. Yr oedd yn amlwg bellach ei fod yn casau hyd yn nod y wisg a halogwyd gan y cnawd.

Tua dwy flynedd yn ôl, pan benderfynodd yr eglwys Wesleyaidd, o herwydd bychander eu nifer, roddi i fyny gynnal yr achos, bwriodd Mr. H. W., yn nghyd ag amryw eraill eu coelbren gyda'r Annibynwyr, ac yno y bu hyd ei fedd yn llafurus iawn, ac yn gymeradwy gan luaws ei frodyr. Nid gan ei frodyr yn unig yr oedd yn gymeradwy chwaith, ond gan yr holl ardal hefyd. Fel prawf o hyny, dewiswyd ef yn llywydd y Gymdeithas Ddirwestol. Yr oedd yn un o'r dirwestwvr goreu yn y gymydogaeth byth ar ôl ei ddychweliad at grefydd y tro diweddaf. Y gorchwyl cyhoeddus olaf a gyflawnodd oedd y nos Lun wythnos i'r diwrnod yr oedd yn cael ei gladdu, sef llywyddu cyfarfod dirwestol yn ddeheuig a gwresog annghyffredin. Cafodd un o'r angladdau mwyaf parchus a gafodd yr un o'n cenedl yn y lle yma eríoed. Nid oedd neb allasai fod allan y diwrnod hwnw na ddaethant i ddangos eu parch iddo am y tro olaf.

Fel hyn y bu farw y brawd Henry Williams, yn y 51ain flwyddyn o'i oedran, o ganol ei ddefnyddioldeb, a'i ysbryd mor awchus a llafurus, os nad yn fwy felly nag y bu mewn un cyfnod o'i oes. "Efe a â'i dangnefedd; hwy a orphwysant yn eu hystafelloedd, sef pob un a rodio yn ei uniondeb."
E. F. JONES.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Chwefror 1868.