MR. RICHARD WILLIAMS. BLAEN Y CAE, WISCONSIN.
Medi 18fed, 1868, yn Blaen-y-cae, Wisconsin, yn 72 mlwydd oed, Richard Williams.Ymfudodd i'r wlad hon yn 1851, o Lanfairfechan, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymry, a sefydlodd yn y gymydogaeth uchod.
Bu yn aelod ffyddlon gyda'r Methodistiaid Calfinaidd am 35 mlynedd. Dewiswyd ef yn ddiacon yn Eglwys Engedi, yr hon swydd a lanwodd gyda graddau helaeth o ffyddlondeb, yn ôl y dalent a ymddiriedodd ei Arglwydd i'w ofal. Ymofidiai ar hyd ei oes na buasai wedi treulio boreu ei oes yn ngwasanaeth Crist; ac am a wyddom ni, mai y peth neeaf i fod yn ddyn duwiol yw cael duwioldeb yn moreu yr oes. Nid mor ryfedd ydyw fod pobl dduwiol yn cwyno na chawsant grefydd ym ieuanc.
Nid ydym yn gwybod fod dim yn hynodi ein brawd o ran ei dalentau naturiol, ond fel y mae gras yn rhoddi rhyw eneiniad ar fywyd dyn sydd yn ei wneyd yn werth i gymdeithas; ac i'r graddau yr oedd gras yn dyfod i'r golwg ynddo yntau y gwerthfawrogid ef; ac yn wir, y mae fod gras yn gallu gwneyd dynion o dalentau cyffredin mor ddefnyddiol i gymdeithas, yn un o'r profion sydd yn dyfod adref at ein meddwl fod crefydd Crist yn un oddi uchod.
Yr oedd ein brawd wrth hyn yn meddwl am farw. Gwnaeth hyn ef yn ddyoddefgar yn ei faith gystudd, a gallodd ymadael a'r byd gydag ychydig o gyffro. Dywedai wrth un o'r hen frodyr a ddaethai i ymweled ag ef y prydnawn y bu farw, pan ar ffarwelio ag ef, "Na chai weled ei wyneb ef eto yr ochr yma i'r dw'r, ond y cai ar ôl croesi yr afon," a chyda thôn orfoleddus dywedai, "Duw sydd noddfa a nerth i mi," ond heb fyned dim yn mhellach. Dywedai ei fod yn rhy wan, ond y byddai yn union yn ddigon cryf. Dywedai eto fod ei obaith yn yr Hwn y gobeithiodd bob amser. Gadawodd briod a phlant ar ei ôl, a sicr y bydd Duw yn llon'd ei addewid iddynt.
Rhoddwyd y corff i orphwys gerllaw Capel Engedi gan dyrfa fawr a'i carai yn ei fywyd.
J. DANIEL.