MR. WILLIAM WILLIAMS. GORPHWYSFA, COLUMBUS, WISCONSIN.

Ebrill 14eg, 1868, William Williams, Gorphwysfa, ger Columbus, Wisconsin, o'r parlys, wedi pasio 81 mlwydd oed.

Cafodd ei daro chwe' diwrnod cyn ei farwolaeth mor drwm fel nas gallodd ddyweyd un gair hyd y diwedd. Ymfudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1845, o Sir Gaernarfon.

Y man y bu byw hwyaf yn yr hen Wlad, ar ôl priodi, ydoedd Penrhos Bach, ger Caernarfon. Sefydlodd ar ei ddyfodiad i'r wlad hon yn y man y bu farw. Bu farw ei wraig tua 19 mlynedd yn ôl, a daeth ef i'r eglwys cyn hir ar ôl hyny, a dilynodd grefydd yn ddychlynaidd hyd y diwedd. Yr oedd yn un o'r rhai mwyaf moesol ar hyd ei oes, ac mor hynaws fel yr oedd pawb yn ei garu.

Dranoeth cynullodd trlgolion y gymydogaeth i hebrwng ei ran farwol i fynwent Bethel. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch Richard Griffiths.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Rhagfyr 1868.