MRS. CATHERINE EVANS. SLATINGTON, PENNSYLVANIA.

Chwefror 21ain, 1869, yn Slatington, Pennsylvaina, yn 69 mlwydd oed, Catherine, priod Mr. John W. Evans. Ganwyd a magwyd hi yn Rhôs Bethel, Llanddeiniolen, Swydd Gaernarfon, Cymru.

Daeth y teulu i America yn y flwyddyn 1845, a thrigasant er y pryd hwnw yn ac o amgylch Slatington. Bu eu cartref yn arosfan dyeithriaid Cymroaidd am flynyddoedd pan ddechreoodd y Cymry sefydlu yn y gymydogaeth hon. Bu yn aelod gyd a'r T. C. am ysbaid 33 o flynyddoedd. Ei phrif nodwedd oedd cydymdeimlad a'r profedigaethus, a hyny ar gynllun eang, heb ei gyfyngu gan na phlaid na graddau. Ond lle bynag y gallai fod o wasanaeth, yr oedd hi yno; a thrwy ei medrusrwydd deheuig, a'i gwasanaeth didor, yr oedd ei gwasanaeth yn anmhrisiadwy.

Pan y bu farw, teimlid, a dywedid fod Slatington wedi colli y ddynes oreu o'i mewn yn yr ystyr hyn. Gadawodd briod tyner, plant ac wyrion, yn nghyd a lluaws o berthynasau i alaru ar ei hol.

Dydd Mawrth canlynol, ymgasglodd tyrfa luosog i wneyd y gymwynas olaf i'w gweddillion marwol. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan eich gohebydd, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. A. Morton, a Mr. J, Griffiths.
J. L. JEFFREYS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mai 1869.