MR. G. G. GRIFFITHS. FAIRVIEW, CATTARAUGUS COUNTY, NEW YORK.
Fairview, swydd Cattaraugus, Efrog Newydd.Gollyngodd angeu ei saeth farwol a chwympodd milwr yn myddin y Duw byw - henafgwr yn Israel a wyrodd i'r gweryd - ac un o swyddogion Seion a symudwyd i wlad y palmwydd yn mro tangnefedd. Y mae coffadwriaeth y cyfiawn gan hyny yn werthfawr, ac yn teilyngu lle yn nghalonau rhai rhinweddol y ddaiar. Er wedi marw y mae efe eto yn llefaru, a theimlir dylanwad moesol ei gymeriad byth.
Ganwyd gwrthddrych y coffa hwn mewn lle o'r enw Llawenan, yn Llanfaelrhys, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, Rhagfyr 17eg, 1800. Mynyddau a dyffrynoedd Arfon oeddent olygfeydd bore ei oes, ac yn ei hawyr hi yr boenus dreuliodd ddyddiau ei ieuengctyd. Yr oedd yn fab i Evan a Dorothy Griffiths - efe oedd eu cynfab; a chyda ei rieni yn un o'r teulu ymfudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1818.
Yr oedd Steuben yn Sir Oneida y pryd hyny yn ganolbwynt ymfudiaeth y Cymry - elent trwy Utica gan edrych yn amheus ar wastadoedd y Mohawk, ac heibio i feusydd teg yr Holland Patent, gan ddringo llethroedd Trenton i fryniau Steuben; ie, pobl y bryniau fu allwladyddion Gwalia am flynyddoedd - ac yma yr ymsefydlodd teulu Llawenan.
Tua'r flwyddyn 1823 ymunodd Mr. G. mewn priodas ag Eleanor merch William Griffìths, Llanllawen, pobl cyfrifol yn yr un ardal, yr hon fu iddo yn ymgeledd gymhwys, ac eto yn aros wedi goroesi priod ei hieuengctyd - bu iddynt wyth o blant, am y rhai y crybwyllwn air yn y man. Yn y flwyddyn 1838 ymwelodd Duw â'i bobl yn Steuben - bu yno ddiwygiad crefyddol anarferol - tywalltiad helaeth o'r Ysbryd Glân ar yr eglwysi - torf lluosog yn gofyn y ffordd i Seion - yr anialwch a'r anghyfaneddle yn blodeuo - coed y maes yn curo dwylaw, a llais cân a moliant yn dadsain pob bryn o derfynau Remsen hyd Ben y mynydd.
Yn mhlith y dychweledigion yr oedd G. Griffiths yn cael ei rifo - ac ymunodd â'r eglwys yn y Capel Uchaf dan fugeiliaeth y Dr. Ererett. Credwn i'r "gwynt nerthol yn rhuthro" ei dori i lawr oddiar yr hen wreiddyn - iddo ddechreu ei yrfa grefyddol yn blentyn yn Nghrist Iesu.
Yn y flwyddyn 1844 symudodd ef a'i deulu ac ymsefydlasant yn ardal Fairview, Cattaraugus, Efrog Newydd. Bu efe mewn cysylltiad ag eraill yn nghyd a llafur difiino y Parch. James Griffiths yn ymdrechol iawn i sefydlu'r gangen Gynulleidfaol o Eglwys Crist yn y gymydogaeth hon - ac ni fu eu llafur yn ofer yn yr Arglwydd.
Yn Mehefìn 1846 sefydlwyd Eglwys Carmel ar y County line - a dewiswyd ef fel brawd da ei air, ac o fuchedd difrycheulyd, i'r swydd ddiaconaidd, yr hon a wasanaethodd yn ffyddlawn hyd ddiwedd ei oes.
Un o nodweddion ei gymeriad oedd diysgogrwydd yn nghyflawniad dyledswyddau crefydd - nid gyda'r "anis a'r myntis," ond yn eu holl ranau - pethau mawrion a bychain y gyfraith - yn deuluol, gymydogol, ac eglwysig; yr oedd cyflawni gwasanaeth yr Arglwydd yn hoff waith ganddo, fel na chymerai ei rwystro gan bethau bychain. Bu yn weithiwr difefl yn ngwinllan ei Arglwydd, a gwnaeth ei ran yn dda yn holl gysylltiadau y tŷ. Gyda'r gwaith o adeiladu addoldai ni cheid ef yn ôl - dodai ei ysgwydd dan y baich, a gwthiai gyda'r cerbyd i'w gael i dir diwall. Rhyw un flynedd ar hugain yn ôl llosgai ei sel fel Elias ar Carmel, a gweithiodd a'i holl allu i gael trigfan i arch ei Dduw. Yn ddiweddarach, er mwyn cyfleusdra mwy manteisiol i addoli, bu yn ddiwyd a thra ymdrechol i gael addoldy yn Fairview. Hefyd ymgyferfydd yr Eglwys yn Siloam yn Sabbothol a.y.. Gwasgaredig yw y praidd ar hyd y meusydd hyn, ac yn gofyn gwasanaeth bugail gweithgar i ofalu am danynt, i'w harwain a'u porthi yn y porfeydd gwelltog ger afon y bywyd.
Llinell amlwg arall yn nghymeriad y trancedig oedd ei neillduolrwydd mewn gweddi - toddai ei enaid fel cwyr yn ngwres yr haul o flaen yr orsedd; yr oedd ei daerni ger bron yr Arglwydd yn ddynodiadol o'i fabolaeth - gafaelai yn ngholofnau'r orsedd, ac yn nerth ei Dduw - fel yn dyweyd "Ni'th ollyngaf hyd oni'm bendithi." Hoff a phrif byngciau gweddi Diacon Griffiths oeddynt, cael ei barotoi trwy ras y Ceidwad i'r trigfanau fry - i efengyl y deyrnas lwyddo yn amcan ei chyhoeddiad - Seion gael ei deffroi - pechaduriaid eu hachub, a'r Iesu croeshoeliedig ei ogoneddu.
Er fod llais y gweddiwr wedi dystewi yn yr angau, eto mae gobaith Israel ar yr orsedd - gwrandawr gweddi yn fyw - a llesiant Seion yn byw yn ei galon. O ganlyniad, "Nac ofna braidd bychan, a.y." "Myfi yr hwn wyf fyw ac a fu'm farw" sy'n teyrnasu ar orsedd y cyfanfyd.
Ni ddiangodd Mr. Griffiths mwy nag eraill o fforddolion Seion rhag gorthrymderau'r daith - gwyr erwindeb y ffordd i dy ei dad, ac edrycha heddyw a llygad clir o fryniau Caersalem ar holl droion yr yrfa, gan fawrygu Duw ei Iachawdwr. Do, gwelodd ddyddiau cymylog a niwliog - nosweithiau blinion ac achos ei Geidwad allan yn yr ystorm. Yfodd gwpaneidiau o ddyfroedd Marah; ond yr oedd yn hynod o dawel a siriol yn ei holl dywydd - ei ymddiriedaeth yn gadarn yn ei Dduw.
Y tu allan iddo ei hun yr oedd cuddiad ei gryfder, ac ni cheid ef yn ymyraeth a materion rhai eraill. Anaml iawn y gwelwyd gwg ar ei wyneb; na, sirioldeb oedd yno yn cartrefu, a charedigrwydd a chymydogaeth dda lenwai ei galon. Yr oedd ei edrychiad boneddigaidd yn yr addoliad, ei ddull parchus yn gwrando geiriau'r bywyd tragywyddol, yn sicr o dynu sylw y dyn dyeithr, ac yn help mawr i was yr Arglwydd fynegi ei genadwri. Nid i feirniadu ond i addoli y deuai Mr. Griffiths i'r moddion, a dir genyf yr elai o'r cyfarfod yn well os nid yn gallach. Am ddawn ei Dduw ac nid doniau dyn yr ymglymai efe, ac ymborthai ei enaid ar hen wirioneddau y cyfamod newydd. Enillodd iddo ei hun air da gan ei gydnabod, a chan y gwirionedd ei hun.
Er fod llawer o gystudd wedi bod yn nheulu Mr. G., ac angau wedi talu aml ymweliad a hwynt, eto mwynhaodd efe iechyd da trwy ei oes, a byr ond trwm fu ei gystudd olaf - rhyw gystudd deg niwrnod oedd o gwbl: - ymafaelodd math o ryndod (chills) ynddo nos Iau, Mai 13eg. Ond aeth i angladd Richard mab i Richard R. 0wens ar y 15ed, ac yr oedd yn alluog i fyned o amgylch y tŷ y rhan fwyaf o'r wythnos ganlynol. Boreu yr 21ain oedd y tro olaf iddo allu cynal dyledswydd deuluaidd. Nis anghofir taerni y weddi hono - am i'r Arglwydd eu paratoi i "gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni," ac na fyddai eu harosiad yn y byd ddim yn hir. Ychydig feddylid ar y pryd ei fod yn mron a chanu'n iach i'r etifeddiaeth ar y ddaiar - y troai y cyfan yn dywyllwch yma, a bod ganddo etifeddiaeth wrth law mewn gwlad na fachludai ei haul byth. " Duw a'r Oen yw ei goleuni hi." Ie, fod "ddim yn hir" wrth y drws ar y trothwy mor agos a dod i ben. Gwaethygodd o'r pryd hwnw allan, a machludoid haul ei fywyd am 6 o'r gloch prydnawn dydd Iau, Mai 27ain. Ond aeth ei yspryd
I oleu haul goleuach.
Fel hyn y gorphenodd y gweithiwr lluddiedig ei waith, yn 68 mlwydd, 5 mis a 10 diwrnod oed.
Yr oedd yn ymwybodol fod ei daith ar ben. Dywedai wrth ei ferch nos Sabboth "na fyddai gyda hwy yn hir," a thystiai nad oedd arno ofn marw, fod Iesu Grist yn werthfawr iddo, a chrefydd yn talu ei ffordd. Mae yn wir mai ychydig a siaradodd yn y glyn; eto yr oedd yu hunan feddianol ac ymwybodol fod angau yn dattod y rhaffau i gael y llong yn rhydd o draeth marwoldeb.
Ar y 29ain ymgasglodd tyrfa luosog o Gymry ac Americaniaid i weini y gymwynas olaf iddo. Cynaliwyd y gwasanaeth crcfyddol yn nghapeî Fairview am 12 o'r gloch, pryd y pregethwyd gan y brodyr W. H. Thomas (A.) a J. P. Harris (B.), y blaenaf yn Gymraeg a'r olaf yn Saesneg^ oddiar Phil. 1: 23, ac 2 Tim. 4: 7, 8. Hebryngwyd ei weddillion marwol i fynwent Siloam hyd y boreu mawr
"Y bydd dorau beddau'r byd
Ar un gair yn agoryd."
Yr oedd yn ddymunol gweld ar lan ei fedd y weddw alarus drwy ei dagrau - y pedwar mab a'r ferch mewn tristwch dirfawr waith colli eu rhiant parchus - heb un tad i'w cynghori mwy. Bydded Tad yr amddifad yn dyner o honynt oll ac yn blaid i'r weddw yn nydd ei chyfyngder "Canys ffyddlawn yw yr hwn a addawodd." Mae un o'r meibion, Mr. G. C. Griffiths, yn preswylio yn Oshhosh, Wisconsin. Danfonwyd telegram ato ef boreu dydd Iau, Mai 27ain, a chyrhaeddodd Fairview pan oedd yr angladd yn myned i fewn i'r capel - mewn amser i gael yr olwg olaf ar ei anwyl dad. Y tro diweddaf yr ymwelodd y mab hwn â'r ardal oedd gyda gweddillion marwol ei chwaer ieuengaf, yr hon ynnghyd a'i chwaer henaf oeddent wedi myned i ofwyo eu perthynasau yn Oshkosh; ond a fu farw Ebrill 7fed, 1864. Gwel "Cen." Mehefin 1864. Y mae yn gysur mawr fod yr Arglwydd yn cyflawni ei addewid trwy godi y meibion yn lle'r tadau, a'r merched yn lle'r mamau. Bydded gweddi'r Eglwys yn daerach ar y pen hwn - fel y bo ein plant yn ddefnyddiol ar ein hol yn nhy yr Arglwydd. Amen.
J. P. HARRIS.