MRS. MARGARET GRIFFITHS. TUG HILL, GER TURIN, NEW YORK.

Rhagfyr 13, 1869, yn ardal Tug Hill, ger Turin, swydd Lewis, Efrog Newydd, Mrs. Margaret Griffiths, gyut o Salfyr, plwyf Rhiw, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn 74 mlwydd oed.

Ymfudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1852. Sefydlodd efe a'i fab yn yr ardal hon lle y treuliodd weddill ei hoes, ac y gorphenodd ei gyrfa ddaearol, a'i llygaid yn gweled ei Hiachawdwriaeth. Yn fuan wedi dyfod drosodd i'r wlad hon, gwnaeth broffes gyhoeddus o grefydd Iesu Grist, a bu yu aelod hardd gyda'r Cynulleidfawyr hyd ddydd ei marwolaeth.

Yn ei chystudd diweddaf yr hwn a barhaodd am dros flwyddyn o aniscr, dangosai ysbryd tra addfwyn, gan lwyr ymfoddloni i ewyllys ei Thad nefol.

Dywedai yn aml nad oedd arni eisiau dim ond marw, a myned at Iesu Grist. Yr oedd yn hynod o ymdrechgar mewn gweddi. Gweddiai lawer yn neillduol dros ei mab yr hwn a ddangosai fod ei seren a'i barch i'w fam oedranus yn angerddol, - bu yu hynod o dyner, amyneddgar a charedig iddi yn ei chystudd, a hyderwn y gwna Duw ateb ei gweddiau hi, a llawer eraill ar ei ran, er ei dragwyddol iachawdwriaeth.

Claddwyd Mrs. Griffiths yn mynweut Tug Hill. Gweinyddwyd gan y brodyr Richard Isaac a r ysgrifenydd.
THOMAS M. OWEN.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mawrth 1870.