MRS. MARGARET GRIFFITHS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Medi 15fed, 1869, yn Remsen, yn 83 mlwydd a 6 mis oed, Mrs. Margaret Griffiths.

Brodor oedd o Pwllheli, Gogledd Cymru. Enw ei thad a'i mam oedd Humphrey ac Ann Jones. Bu farw ei mam yn Nghymru, pan oedd Margaret ond tua 10 mlwydd oed. Yn mhen tua blwyddyn ymfudodd ei thad yn weddw a 5 o blant i'r America ac ymsefydlodd yn Trenton. Dywedodd un wrthyf mai yr hen chwaer Griffiths a fwydodd rai â'r afal cyutafa dyfodd yn mhlwyf Trenton Bu ei thad farw yn mhen tua thair blynedd wedi dyfod drosodd, ac ef, meddynt, oedd yr ail a gladdwyd yn mynwent y Capel Ucha, Steuben. Ac yn fuan ar ôl claddu ei thad aeth hi i New York, ac ymsefydlodd yn y ddinas yn mha le hefyd y parhaodd y rhan íwyaf o'i hoes, ac yno yr ymunodd mewn priodas â John Griffiths, Brass Founder, a buont byw yn hapus a llwyddianus i gasglu cyfoeth mawr.

Nis gwn a fu iddynt blant a'i peidio, ond os bu nid oes un yn byw. Ymunodd â chrefydd gyda'r Bedyddwyr. Bedyddiwyd hi gan yr hybarch John Williams, tad y Dr. Wm. R. Williams. Yr oedd yn aelod o'i eglwys tra y bu ef byw. Ond wedi marw Mr. Wiiliams ymunodd ag eglwys y Bedyddwyr yn Oliver Street, a pharhaodd yn aelod ffyddlon yno tra y bu yn aros yn y ddinas. Bu John Griffiths ei gŵr farw tuag 16 flynyddoedd yn ôl, ac yn mhen rhyw ychydig ar ôl claddu ei gŵr symudodd Mrs. Griffiths i fyny i Remseen, a chartrefodd gyda Didymus Thomas. ysw, a'i briod.

Ystyrid hi fel aelod yu eglwys Capel Zion Remsen, er nad oedd ei llythyr o ollyngdod o'r eglwys arall (mae'n debyg) wedi ei roi i mewn cyfyngdod o freintiau yr eglwys, a bu yn ffyddlon i gadw ei lle yn nhy Dduw tra y gallodd, ac yr oedd yn barchus ac auwyl gan y frawdoliaeth hyd ei marwolaeth, lle y mae genym bob lle i gredu ei bod wedi marw o farwolaeth yr uniawn, a hyny o herwydd fod ei bywyd yn tebygoli yn fawr i fywyd yr uniawn.

Gweinyddwyd yn ei hangladd gan y Parchn. Thos, Williams, Mr. Flint, Dr. £verett, a'r Ysgrifenydd, yn nhy Mr. Didymus Thomas.

A'r dydd canlynol awd a'i chorff i New York i'w gladdu wrth ochr ei gŵr yn mynwent Cypress Hill i orphwys hyd fore yr adgyfodiad. OWEN F. PARRY.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Tachwedd 1869.