MRS. MARY HUGHES. STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Ionawr 4ydd, 1869, yn Floyd, Mary Hüghes, yn 76, mlwydd oed.Ni bu ei chystudd ond byr; yr ydoedd yn chwaer i Mr. Griffith Hughes, Steuben; daeth i'r wlad hon tua 36 mlwydd yn ôl, o le a elwir Tyddyn Adda yn agos i Rhyd y Clafdy, ger Pwllheli, Sir Garnarfon. Ar ôl marw gwraig ei brawd uchod bu yn ffyddlon yu cadw tŷ iddo a magodd ei blant oedd amddifaid gyda'r gofal mwyaf.
Ar ôl marwolaeth ei brawd cartrefodd gyda ei nith Mrs. Griffith Roberts, Floyd, hyd ei marwolaeth am mai gyda hi yr hoffai fod, ac yr oeddynt yn hoff o'u gilydd.
Ni bu yn briod erioed, yr oedd yn un dirion a chymwynasgar. Hebryngwyd hi i'w chladdu yn ôl ei dymuniad i gladdfa French Road. Steuben, a gweinyddwyd gan y brodyr Thomas T. Evans a J. R. Griffith, Floyd.