MISS ANNE ELIZABETH JONES. WILLIAMSBURGH, IOWA.

Cyrhaeddodd Mr. Robert Jones, Goruchwiliwr (gynt) ar chwarel Gerynt, Beddgelert, swydd Gaernarfon, ynghyda Mrs. Laura Jones, ei wraig, ardal Williamsburgh, Iowa, ar yr 8fed o Awst 1869.

Yr oedd ganddynt ddwy ferch a dim ond dwy sef Anne Elizabeth, oed 2 flwydd, a Elizabeth Harriet, oed 5 mis, ond er eu mawr alar a'u siomiant, bu farw Anne Elizabeth Awst 29ain a chladdwyd hi dranoeth yn Nghladdfa newydd y dref.

Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. D. Price.

Bu farw Elizabeth Harriet, Medi 17eg, a chladdwyd hi dranoeth yn yr un bedd a'i chwaer pryd y gweinyddodd Mr. J. Thomas (T. C.) Yr oedd yr amgylchiad hwn yn brofedigaeth lem i deulu ieuanc a addewent ddedwyddwch mawr iddynt eu hunain wedi croesi'r môr, ond cynaliodd crefydd hwynt rhag tristhau fel rhai heb obaith, a dymunent gydnabod gyda diolchgarwch cyhoeddus garedigrwydd Mr. Lewis Jones a'i briod yr hwn a'u derbyniodd i'w dŷ, ac a'u cynorthwyodd fel tad yn eu trallod a'u galar. Ni chyll ei wobr.

Briwiau dyfnion iawn a dorwyd
O dan ddwyfron mam a thad,
Gorfod hebrwng eu hanwyliaid
I'r oer fedd mewn newydd wlad;
Wedi croesi'r moroedd mawrion
Wedi cyraedd pen y daith,
Cyn cael gorphwys, - cloddio beddrod,
O mor galed oedd y gwaith.
Ond ni chollwyd eich genethod,
Myn'd ym mlaen a wnaethant hwy
I well talaeth nag Iowa,
Ni raid iddynt farw mwy,
Teithio'n mlaen y byddent bellach
Byth oddiwrth yr afon ddu,
Trithiwch chwithau hoff rieni
Atynt i'r Baradwys fry.
DINORWIG.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ebrill 1870.