MR. JOHN H. JONES. ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Mab Hugh a Jane Jones, Bodisa ym mhlwyf Aberdaron. Cafodd ei fedyddio yn Eglwys Sant Hywyn, Aberdaron ar 14/3/1788.Susannah Evans. 1794 - 1872.
Merch Evan a Mary Thomas, Gwyddal Uchaf, Uwchmynydd, cafodd ei bedyddio yn Eglwys Sant Hywyn, Aberdaron ar 29/5/1794.
Priododd John Jones a Susannah Evans yn Eglwys Aberdaron ar 10/2/1815.
Buont yn byw yn Pen y Borth, plwyf Bodferin am gyfnod ac yno y ganwyd eu mab Evan a fedyddiwyd ar 2/2/1816 ac hefyd ganwyd efeilliaid iddynt, Sarah a Jonnett a fedyddiwyd ar 1/6/1817.
Yn 1818 ymfudodd y teulu i'r America gan sefydlu ar fferm yn ardal French Road yng ngogledd Steuben. Mewn llythyr a anfonodd gartref i'w frawd, John Williams, Pen y Graig, Bodferin yn 1830, mae Thomas W Jones, Fferm Rhydlios yn Boonville yn son am John Jones, Pen y Borth ac yn dweud ei fod yn un o'i gymdogion agosaf yn America.
Ymhen peth amser symydodd John H Jones a'i deulu i fferm yn Floyd, yn ymyl dinas Rome. Oddiwrth gyfrifiad yr Unol Daleithiau yn 1850 gellir canfod ei fod yn berchen fferm gwerth dwy fil o ddoleri yn Floyd. Ganwyd 17 o blant i John a Susanna Jones ond fe fu rai ohonynt farw yn ieuanc.
Mae gweddillion John H Jones, Susan E Jones a rhai o'u plant wedi eu claddu ym mynwent Wright Settlement ger dinas Rome.
Glyn Roberts ~ Hydref 2021.
MR. JOHN H. JONES. ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Hydref 31ain, yn Floyd, Mr. John H. Jones, yn 81 mlwydd a 6 mis oed.Daeth ef a Mrs. Susan Jones ei briod trosodd i America 51 mlwydd yn ôl o Lleyn, sir Garnarvon.
Buont yn byw rai blynyddau yn French Road, Steuben. Symudasant i Floyd i dreulio gweddill eu hoes. Bu iddynt 17 o blant o ba rai mae pedwar yn fyw, un mab yn Pennsylvania a Mrs. Ebenezer Jones, Floyd, a dwy ferch gyda eu mam gartref yn gofalu yn dyner ac anwyl o honi yn ei henaint, a buont yn hynod ofalus am eu hanwyl dad hyd nes yr hunodd yn yr angeu.
Dylynodd Mr. Jones grefydd blynyddau lawer, yr oedd yn aelod o'r eglwys Gynulleidfaol yn Floyd, bu ffyddlon hyd y diwedd, a dywedai yn ei gystudd ei fod yn pwyso ei enaid ar Iesu, "neb ond Iesu."
Dydd ei angladd daeth tyrfa fawr i ddangos eu parch tuag ato. Claddwyd ef yn mynwent Wright Settlement. Gweinyddwyd gan y Parch. John Jones, Remsen, a'r ysgrifenydd.
J. R. GRIFFITHS.
Y Cenhadwr Americanaidd ~ Rhagfyr 1869.
MR. JOHN H. JONES. ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
In the name of God, Amen.I John H. Jones of the town of Floyd in the County of Oneida and state of New York, being of sound mind and memory and considering the uncertainty of this frail and transitory life do therefore make, ordain, publish and declare this to be my last Will and Testament that is to say :
First. After all my lawful debts are paid and discharged I give and bequeath to my son Evan, the sum of five dollars. Also I give to my daughter Elinor, the sum of five dollars and the residue of my estate real and personal, I give and bequeath to my wife Susan as long as she may live and after her days all of my property real and personal, I give and bequeath to my daughters Ann and Rebekah to be divided into equal shares, to each a share.
Likewise, I make, constitute and appoint John Edwards of the town of Rome, to be Executor of this my last Will and Testament, hereby revoking all former Wills by me made.
In witness whereof, I have hereunto subscribed my name and affixed my seal the eighth day of January in the year of our Lord one thousand eight hundred and sixty eight.
In the presence of John Edwards.
The above written instrument was subscribed by the said John H. Jones in our presence and acknowledged by him to each of us and he at the same time declared the above instrument so subscribed, to be his last Will and Testament, and we at his request, have signed our names and respective places of residence.
John R. Edwards Rome Oneida County
Robert L. Roberts Rome Oneida County