MR. JOHN J. JONES. WINONA, MINNESOTA.

Medi 13eg, 1869, yn Winona, Minnesota, yn nhŷ ei gefnder, John H. Jones, o'r Dwymyn Typhoid, ar ôl deg diwrnod o gystudd trwm, John J. Jones, mab i John Jones, saer-maen, Pen y Bryn, Bethesda, Sir Gaernarfon.

Daeth ef a'i briod i'r wlad hon yn Mai diweddaf, a buont yn trigianu yn y lle hwn hyd nes daeth angau brenin braw i roddi terfyn ar ei yrfa ddaiarol, yn 26 mlwydd a 10 mis oed. Yr oedd yr ymadawedig wedi ei fagu yn eglwys Dduw, a glynodd yn ei broffes hyd y diwedd. Dywedai yn aml pan ar ei wely angau nad oedd arno ofn marw - ei fod yn adnabod Iesu Grist; a'i eiriau olaf oeddynt, tuag awr a haner cyn marw:

"0 fy enaid, cwyd dy olwg,
Gwel yn amlwg ben y bryn,
Lle bu Iesu, 'r Gyfaiil ffyddlon,
Dan yr hoelion dur cyn hyn;"

a llawer o emynau cyffelyb yn ystod y tri diwrnod olaf o'i fywyd.

Dranoeth, sef y 14eg, ymgynullodd tyrfa luosog o Gymry a Saeson i hebrwng ei weddillion marwol i gladdfa Wood Lawn. Gellir dyweyd yn y fan yma mai ef oedd y Gymro cyntaf a gladdwyd yn y lle hwn. Gweinyddwyd yn y tŷ ac wrth y bedd gan y Parch. J. M. McNulty, gweinidog y Presbyteriaid yn y ddinas hon. Tad yr amddifaid a ofalo am ei weddw yn ei galar a'i thrallod dwys.
JOHN H. JONES.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Hydref 1869.