MRS. MARY JONES. DETROIT, MICHIGAN.

Ionawr 2ail, 1869, yn ei hanedd yn Detroit, Michigan, Mrs. Mary Jones, priod Mr. Edward D. Jones, yn 44 mlwydd oed.

Cafodd gystudd maith o'r darfodedigaeth yr hwn a ddyoddefodd yn dawel ac addfwyn.

Ei henw gwyryfol oedd Mary Griffiths. Merch ydoedd i Mr. Griffith T. Grifiiths, yn awr o Holland Patent. Ganwyd hi yn Aberdaron, swydd Garnarfon, Gogledd Cymru.

Daeth drosodd i'r wlad hon yn nheulu ei thad pan oedd tua chwe' mlwydd oed. Derbyniwyd hi yn aelod eglwysig yn y Capel Ueha' Steuben, gan yr ysgrifenydd tua 29 mlwydd yn ôl. Yr oedd yn un o'r lodesi ieuainc mwyaf syml a gwylaidd, ac yn un o'r crefyddwyr ieuainc mwyaf duwiol a phrofiadol a adnabuom erioed. Yr oedd ynddi feddyliau tra thyner ae anwylaidd am ei hen fam eglwys yn Steuben tra bu byw, a pharhaodd yn ffyddlon gydag achos ei Gwaredwr ac yn nghymdeithas ei bobl hyd derfyn ei dyddiau.

Gadawodd briod a 3 o blant i alaru ar ôl priod ffyddlawn a mam dyner a gofalus iawn.

Yr oedd w'edi bod drosodd yn Nghymru yr haf diweddaf gyda ei mab David gyda y dysgwyliad o gael adferiad iechyd; ond yn ofer - yr oedd yr hen afiechyd twyllodrus hwnw wedi gafaelyd ynddi na ollyngai ddim o'i afael nes cael ei rhan farwol i'r bedd. Ond y mae gan ei hanwyl briod y cysur cryf ar ôl ei cholli ei bod wedi myned at yr Iesu. Yr oedd er's dyddiau yn dymuno cael myned, ac eto er mwyn ei theulu yn dymuno byw. Yr oedd er's rhai dyddiau cyn marw wedi rhoi gofal y plant yn dyner iawn i'w hanwyl dad - yu fwyaf neillduol yr eneth fach.

Dywedai fod arni eisiau mynd - ei bod wedi treio ymddiried yn yr Arglwydd er ys talm a'i bod yn sicr na wnai Ef mo'i gwrthod hi yn awr.

Hunodd yn dawel yn yr Iesu - ei choffadwriaeth sydd fendigedig.
R. EVERETT.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Chwefror 1869.