MR. RICHARD JONES, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Yn ddiweddar, yn Rome, New York, Mr. Richahd Jones, Steuben, yn 55 mlwydd oed.Cartref boreuol Mr. R. Jones oedd yn Eifionydd, Arfon, Gogledd Cymru. Ymbriododd yn lled ieuanc gydag Ann, o'r Ffridd, Clynog, yr hon oedd fenyw bur grefyddol ac a fu yn foddlion i lareiddio ar ei dymerau pan yn cyffro gormod.
Yn y flwyddyn 1846, daethant drosodd i'r wlad hon a sefydlasant yn Remsen a'i hamgylchocdd. Codasant 3 o blant pa rai erbyn heddyw sydd yn benau teuluoedd.
Dyn o gorff a meddwl cadarn oedd Richard Joncs, a lled benderfynol a chalonog, ac ymroddgar i ddiwydrwydd. Byddai yn brydlon gyda phobpeth - yr ydoedd yn lled rwydd i ollwng allan ei feddwl ar bynciau gwladol a chrefyddol, ac ni arferai y cywair lleddf bob amser; ac felly tarawai deimlad ei wrthwynebydd ar y pryd; ond er y cwbl nid oedd ganddo lawer o elynion, ond yr oedd y mwyafrif o lawer yn meddwl yn dda am ei egwyddorion a'i grefydd. Yr oedd yn gydwybodol haelionus, i gyfranu at achosion crefyddol. Yr oedd ei ddealltwriaeth o'r ysgrythyrau yn uwch na llawer o rai mwy cyhoeddus nag ef.
Ei glefyd angeuol oedd enyniad yr ymysgaroedd. Claddwyd ef yn mynwent y nant ŵrth ochr ei briod, yr hon yr wylodd lawer ar lanerch ei bedd am y ddwy flynedd y bu byw ar ei hol. Cydgyfodant i fwynhau yr un gwynfyd yw ein hyder.
THOMAS WILLIAMS.