MR. WILLIAM MORRIS, WEST BANGOR, PENNSYLVANIA.

Mab ydoedd William Morris i Thomas a Margaret Morris, Brynderwen, Llandegai, Gogledd Cymru. Ymunodd a'r eglwys Annibynol yn Bethesda, pan oedd tua 14 oed. Priododd pan yn 24 mlwydd oed.

Daeth i'r wlad hon 16 o flynyddoedd i'r Awst diweddaf. Yma y sefydlodd gyntaf, yma yr arosodd, ac yma y diweddodd ei yrfa haner awr wedi unarddeg, nos Fawrth, Hydref 27ain, 1869.

Ei gystudd oedd y typhoid fever. Parhaodd am oddeutu tair wythnos. Bu dan ofal dau feddyg, un o ba rai ystyrid gan y cyffredin y goraf yn yr ardaloedd hyn; ac yr oedd ganddo gymaint o afael yn W. Morris, fel mai er gwaethaf ei allu, ei ddyfais, a'i gywreinrwydd, y mynodd angau drechu. Rhif ei flynyddoedd ar y ddaear oedd 44.

Yr oedd W. Morris yn ddyn o natur rydd, o dymer lawen, o ysbryd bywiog ac o feddwl penderfynol. Nodwedd arbenig ynddo oedd, cyflawniad o'r gorchymyn hwnw, "Beth bynag a ymafael dy law ynddo i'w wneuthur, gwna a'th holl egni." Aethai trwy rwystrau ac anhawsderau heb eu gweled; a phan y dangosai eraill rwystrau cyffredin iddo, taflai hwynt ymaith a chyfeiriai at ei nod; ac anfynych y methai ei gyrhaedd. Nid oedd o ddeall dwfn a threiddiol i egwyddorion. O herwydd hyn nid oedd ei gymwysder deallol yn cyfateb i'w feddwl gwrol a phenderfynol. Yr oedd ei allu amgyffrediadol yn fywiog a sydyn, a'i ddychymyg yn wyllt a rhamantus. Ychydig o gyfaddasder a berthynai iddo at athroniaeth. Nid oedd yn meddu ar ddigon o arafwch a phwyll i edrych i mewn i bwnc, i'w droi a'i drosi, nes ei weled drwyddo, a deall ei egwyddor. Dyma un rheswm fe allai nad oedd yn deall llawer o egwyddorion ac elfenau cerddoriaeth, tra yr oedd ganddo lais mor dda i ganu, a thuedd mor gryf ato. Maes y fath gymeriad meddyliol, pan yn cael ei lywodraethu gan egwyddor uniawn, ac amcan cywir i wneud daioni yn anhawdd iawn ei droi pan y cymer yr ochr gyfeiliornus ar unrhyw fater. Felly ein gwrthrych, wedi iddo ef unwaith feddwl, gwyddai pawb mai ofer fyddai defnyddio holl nerth rhesymeg er ei droi. Er hyny ni amheuai neb ei gywirdeb; a thystiai ef ei hun yn ei oriau olaf, "Yr wyf wedi bod wrthi yn egwyddorol gyda phob peth."

Yr oedd W. Morris mewn cysylltiad a James, Parry and Co., ac efe oedd Boss y chwarel. Dywed Mr. James am dano fel hyn: "Yr wyf yn teimlo yn ddwys am golli cyfaill a chydwas ffyddlon, diwyd, a gonest, wedi bod gyda'n gilydd yn cydymdrech am yn agos i chwe blynedd. Er y byddem weithiau yn methu cydweled, ac yn croesi ein gilydd mewn geiriau, eto fel Jonathan a Dafydd yr oeddem yn gyfeillion calon." Dangosodd Mr. James hyn yn ei farwolaeth a'i gladdedigaeth, nid mewn gair yn unig, ond mewn gweithred hefyd. A bwriada eto addurno ei dŷ pridd â beddlech goffadwriaethol.

Claddwyd ef dydd Iau yn Slateville. Awd ag ef i gapel yr Annibynwyr yn ol ei ddymuniad ef ei hun, yr hwn oedd yn orlawn o Gymry a Saeson, ac nid oedd ond ychydig os un grudd sych yn yr adeilad. Wedi terfynu y gwasanaeth, awd yn orymdaith araf, dan ganu ar hyd y ffordd i'r gladdfa. Yn nghanol dagrau lawer, rhoddwyd ei gorff i orphwys mewn gobaith o adgyfodiad gwell.

Gweinyddwyd ar lan y bedd yn briodol ac effeithiol, gan y Parch. E. F. Jones. Sylwodd ar rai o neillduolion cymeriad y brawd W. Morris, pa rai oeddynt yn deilwng o sylw ac efelychiad pawb o'r gynulleidfa. Y Sabboth canlynol traddodwyd ei bregeth angladdol oddiwrth Act. 13: 36. Ymunodd y brodyr Methodistiaid gyda ni i ddangos eu parch at yr ymadawedig, a'u cydymdeimlad â ni fel eglwys yn ein colled ar ei ôl. Ac fel y sylwodd y Parch. E. F. Jones yn y gyfeillach ar ôl y bregeth, mai nid rhyw deimlad allanol oedd; ond un gwirioneddol a dwfn y galon. Hefyd dywedodd fod W. M., tra yn selog dros ei enwad ei hun, (ei fod ef yn hoffi hyny,) yn ddyn i bob enwad, Rhoes ei farwolaeth a'i gladdedigaeth amlygiad llawnach o'i werth i'w deulu, i'r eglwys, ac i'r ardal, na dim a allwn ni ddywedyd mewn geiriau. Wrth gofio am yr enill iddo ef, ni a'i gollyngwn ef yn dawel. Ffarwel, fy mrawd, cenaist yn dda yma; yr wyt yn canu yn well yna. Ffarwel, fy mrawd, cenaist yn beraidd yma; yr wyt yn canu yn bereiddiach yna. Cenaist lawer yma; ti geni fwy yna. Ffarwel, fy mrawd, dros ychydig, trwy ras ni ddeuwn yna i'th gyfeillach eto.

Wrth y weddw a'r chwech amddifaid y dywedwn, Ymddiriedwch yn yr hwn sydd yn sylwi ar ddisgyniad aderyn y to ar y ddaear, ac yn "porthi cywion y gigfran pan lefont." Mynwch Grist i fyw, a chewch chwithau farw yn elw.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ionawr 1870.