MRS. ELIZABETH ROBERTS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Enwau tad a mam Mrs. Roberts oedd William a Laura Wilìiams, o Bwlch y groes Isaf - tyddyn bychan yn mhlwyf Llaniestyn, Lleyn. Yno y ganwyd hi, ac o'r ardal hono yr ymfudodd gydag eraill i America, tua'r flwyddyn 1818.

Bu yn gwasanaethu yn Utica tua blwydàyn cyn ymuno yn y sefyllla briodasol gyda Mr. William Roberts. Yn Steuben a Remsen y treuliodd weddill ei hoes. Yr oedd fel priod a chymydoges yn un o'r gwragedd mwyaf cymwysgar a pharchus yn mhlith ei chydnabiaeth, yn arfer ac yn hoff o wrando yr efengyl o'i hieuenctyd. Tua'r flwyddyn 1824, yn amser y Gymanfa yn Steuben y daeth dan ystyriaeth ddwys a difrifol am ei chyflwr tragywyddol, dan weinidogaeth y brawd anwyl Thomas Roberts o Ebensburg.

Yn fuau wedi hyny daeth i'r gyfeillach a derbyniwyd hi yu aelod o Eglwys y Capel Ucha, Steuben, a pharhaodd yn aelod ffyddlon a chymeradwy o'r eglwys hono hyd ei marwolaeth. Nid oedd ei phrofiad yn helaeth, ond yr oedd yn ddiwyd, llafurus a ffyddlon yn ei hymlyniad yn y cyfeillachau a chyda moddion yn gyffredinol. Yn ei ffordd dawel a thirion ei hun yr oedd yn hoff iawn o groesawu gweinidogion.

Ar ôl goroesi ei phriod tua 4 blynedd bu farw yn ei hanedd yn Remsen, Rhag. 23, 1869, yn 81 mlwydd oed. Claddwyd hi wrth ochr ei phriod yn mynwent y Capel Ucha, Steuben - gweinyddwyd gan y brodyr Roberts, Williams, Everett a Phillips.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ebrill 1870.