ELLIS ROBERTS. DEERFIELD, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Yr hwn a fu farw Chwefror 15fed, 1869, yn 85 oed. Daeth gwrthrych y cofiant hwn a'i anwyl briod i'r wlad hon un flynedd ar ddeg a deugain yn ol, o le a elwir Bwlchtyno, yn agos i'r Bala, ac nid oeddynt wedi ymbriodi ond rhyw dair blynedd cyn hyny. Cyn pen llawer o amser prynasant dyddyn ar y Smith Hill, ger Utica. Wedi byw yn y lle hwnw am bedair blynedd ar ddeg, symudasant i'r Bryn Mawr, lle y buont fyw hyd farwolaeth Mrs. Roberts, ac ar ol hyny gwnaeth ei drigfan gyda ei unig ferch a'i fab-yn-nghyfraith Mr. Edward Williams yn yr un gymydogaeth.

Bu iddo ef a'i briod wyth o blant, o ba rai nid oes ond pedwar yn fyw yn bresenol, sef tri mab ac un ferch, oll yn benau teuluoedd ac oll yn arddelwyr crefydd. Fel penteulu yr oedd Mr. Roberts yn un ymdrechgar a diwyd gyda phethau amser - gwenodd yr Arglwydd arnynt yn ei ragluniaeth a choronodd eu llafur a llwyddiant; ond nid ymfoddlonasant ar bethau da amser yn unig, ond ceisiodd ef a'i briod deyrnas Dduw a'i gyfiawnder ef, ac yn y flwyddyn 1828 cawsant eu derbyn yn aelodau o eglwys Gynulleidfaol Utica, yr hon oedd yr amser hwnw o dau ofal gweinidogaethol y Parchedig Robert Everett. Ond gydag amser daeth ar ei feddwl ef ac eraill o'i gyd aelodau gael Addoldy yn Deerfield, ac ymdrechodd ef ac eraill yn ffyddlon i gael eu hamcan i ben, a bu Mr. Roberts yn gwasanaethu swydd diacon yn yr eglwys sydd yn Deerfield hyd derfyn ei oes. Fel un o tìaenoriaid eglwys Deerfield bu drachefn yn ymdrechgar i gael yr ail gapel i fyny, yr hwn sydd lawer iawn yn harddach ac yn rhagorach na'r capel cyntaf, ac yn ei ymyl fynwent helaeth yn yr hon y gorphwys gweddillion nifer fawr o'r hen bererinion a fu ymdrechgar i gael yr ardal i drefn dda.

Nid yr olwg sydd ar bethau yn bresenol oedd yr olwg a welid ar bethau yn yr ardaloedd yma haner can mlynedd yn ol, nac yn wir ddeng mlynedd ar hugain yn ol, mewn ystyr naturiol a moesol. Byddai yn burion peth i ddweyd wrth lawer un, "Eraill a lafuriasant a chwithau a aethoch i mewn i'w llafur hwynt." Er fod y brawd Ellis Roberts yn ddyn siriol yn ei dymer naturiol, eto yr oedd rhyw fath o ddylanwad difrifol a chrefyddol ganddo ag oedd yn peri i'r frawdoliaeth eglwysig ei garu a'i barchu yn fawr, a derbyn y cynghorion hyny a fyddai yn roddi. Ac nid oedd y rhai mwyaf gwageddol ac anystyriol yn y gymydogaeth yn debyg o fynd i gario arni yn annuwiol os byddai yr hen frawd Ellis Roberts yn bresenol; canys yr oeddent yn gorfod credu ei fod ef yn un ag oedd yn ofni Duw ac yn cilio oddiwrth ddrygioni.

Yr oedd yn un ag oedd yn ofalus iawn am addoli Duw yn ei deulu hwyr a boreu. Ac hefyd ei hoff gymdeithas oedd y society, lle y bydd plant yr Arglwydd yn adrodd eu profiadau; ac yr oedd yn dra hoff o'r cwrdd gweddi ac yn hoffi bod ynddo, ac yn gofidio am fod eraill yn ei esgeuluso. Yr oedd efe hefyd yn rhoddi esiampl dda pan fyddai yn gwrando pregethau. Yr oedd yn rhoddi llawer o gymorth i'r sawl fyddai yn traddodi y genadwri. Yr oedd yn un tyner ei deimladau. Ac yn ystod y pedair blynedd y bu eglwys Deerfield o dan fy ngofal byddai bob amser yn dal sylw lled fanwl ar yr hyn fyddai yn cael ei draddodi, ac nid anaml y gwelid y dagrau yn treiglo dros ei ruddiau, yn enwedig wrth glywed am yr Iachawdwr yn dyoddef a marw er niwyn ì bechaduriaid euog gael byw.

Yn y flwyddyn 1882 aeth i Ohio i edrych ansawdd y wlad, a phan ar Lyn Erie cyfododd storm fawr neseu bod oll yn gorfod penderfynu nad oedd dim o'u blaen ond boddi. Ond cymerwyd trugaredd arnynt gan wrandawr gweddi - daethant oll yn ddiangol i dir, a mynych adgofiai ein hen frawd y waredigaeth â chalon ddiolcbgar i'r hwn sydd a'i lywodraeth dros dir a môr.

Bu hefyd yn yr hen wlad yn y flwyddyn 1841 - ac arosodd yno am fwy na saith mis, a daeth yn ei ol ag amryw o'i berthynasau, ei hen gyfeillion a'i hen gymydogion i'r wlad hon.

Ond o'r diwedd daeth yr amser iddo yntau fyned i rodio y llwybr ar hyd yr hwn ni ddychwelir. Bu am hir amser yn gwaelu yn raddol, ac o'r diwedd fe aeth y babell bridd i lawr yn hollol, ac ehedodd yr ysbryd at Dduw yr hwn a'i rhoes ef. Gallem feddwl mai darfodedigaeth araf oedd ei gystudd olaf. Pan oedd ef yn nyffryn cysgod angau yr oedd angor ei enaid yn gafaelu yn ddiysgog yn nghraig ei iachawdwriaeth. Adroddai yn aml y penill hwnw:

Bydd melys lanio draw,
Yn ol bod o don i don,
Ac mi ro'f ffarwel maes o law,
Yn lân i'r ddaear hon.

Un arall o'i hoff hymnau oedd:

O Dduw rho im' dy hedd a golwg ar dy wedd,
A maddeu yn awr fy meiau mawr
Cyn yr elwyf lawr i"r bedd,
Ond im' gaei hyn. nid ofna' i'r glyn
Na cholyn angau mwy, a.y.

A'i ymadroddion diweddaf oedd mewn perthynas i werthfawrogrwydd gwir grefydd.

Dydd ei gladdedigaeth er fod yr hin yn hynod o annymunol ymgasglodd tyrfa luosog yn nghyd er dangos eu parch a'u galar ar ol y marw, ac hefyd i gydymdeimlo a'r byw. Cyn codi y corff allan darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch. W. D. Williams. Pregethodd yr ysgrifenydd yn Gymraeg oddiar Job 14: 10, "Ond dyn a drenga, a pha le y mae." Ac ar ei ol yn Saesoneg gan y Parch. Rhys Gwesyn Jones, Heb. 11: 4, "A thrwyddi hi y mae efe, wedi marw, yn llefaru eto." Ac ar lan y bedd areithiodd y brawd Williams, a therfynwyd drwy weddi, ac ymadawsom gan ddweyd, "Marw a wnelwyf' o farwolaeth yr uniawn, a bydded fy niwedd fel yr eiddo yntau."
James Griffiths.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mehefin 1869.