MR. LAURA THOMAS, MARCY, ONEIDA NEW YORK.

Mawrth 26ain, yn mhlwyf Marcy, Oneida, C. N., yn 57 oed, Laura, gwraig John Thomas, o'r lle uchod.

Ymfudasai i'r wlad hon ers amryw flynyddau yn ôl, o blwyf Llanhaiarn, swydd Gaernarfon. Yr oedd yn aelod barchus a mynwesol o eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Utica; ac yr oedd ei buchedd a'i phrofiadau yn tystio i bawb a'i hadwaenai, nad allasai angeu wneuthur un niweid iddi hi - bod ganddi dŷ, 'nid o waith llaw, tragywyddol yn y nefoedd.'

Wedi ymdrechu ymdrech dêg, gorphenodd ei gyrfa yn dawel, a'i hymddiried yn Aberth y Groes. Ei chlefyd ydoedd y Ddarfodedigaeth Gyflymaf; gosodŵyd ei gweddillion marwol i huno mewn corphlan cysylltiedig â Chapel y Cynnulleidfaelion yn y Gulf.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mehefin 1843.