MR. ROBERT A. ROWLANDS. GOLD HILL, NEVADA.

Ar foreu yr 20fed o Fedi yn ngwaith Gould and Curry, Gold Hill, Nevada.

Yr oedd dau ddyn yn gweithio yn y shaft yr hon sydd 1,200 o droedfeddi o ddyfnder. Ryw fodd syrthiasant lawr tua 100 troedfedd a lladdwyd hwy yn y fan.

Eu henwau oedd Robert A. Rowlands, a Thomas Job (Cornish man.)

Oedran Robert A. Rowlands oedd 32. Yr oedd yn fab i Mr. Robert Rowlands o Abergwyngregyn, swydd Arfon Gogledd Cymry. Yr oedd yn ŵr ieuanc a fawr hoffid gan ei gydnabod - yr oedd yn onest a diwyd.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Tachwedd 1869.