MRS. JANE WILLIAMS. BRON-Y-GADAIR, CAMBRIA, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.

Merch ydoedd i David a Catherine Williams, Coety Mawr, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Ganwyd hi yn y flwyddyn 1808.

Ymunodd mewn priodas gyda Griffith Roberts, Onen Ebryd, ger Llanbedr, o'r swydd ddywededig yn y flwyddyn 1829. Bu iddynt saith o blant, o ba rai y mae tri yn fyw, sef dau yn y wlad hon, ac un yn yr Hen Wlad.

Ymfudodd hi a'i theulu lluosog i'r wlad hon yn y flwyddyn 1847, a glaniasant yn iach a chysurus yn Quebec; ond yn mhen ychydig ddyddiau cymerwyd ei hanwyl briod yn glaf o'r shipfever, a thranoeth ar ôl cyrhaedd dinas Milwaukee, bu farw.

Cyn iddynt ymadael o'r lle, bn farw un o'r bechgyn; ac yn fuan ar ôl cyrhaedd cymydogaeth Cambria, bu farw un o'r merched, y ddau o'r un clefyd a'r tad.

Yn y flwyddyn 1850 ymunodd mewn priodas gyda Mr. Grifíìth Williams, gŵr o Sir Drefaldwyn. Bu iddynt un ferch, yr hon sydd yn bresenol yn cadw tŷ ei thad.

Yn nechreu Rhagfyr diweddaf, cymerwyd Mrs. Williams yn ddisymwth yn glaf iawn gan anhwyldeb y cylla, ac yn mhen deng niwrnod bu farw, sef Rhagfyr 17eg, yn 61 mlwydd oed. Dranoeth, claddwyd hi gan dyrfa luosog yn nghladdfa Cambria.

Ymunodd â chrefydd yn un o eglwysi y Parch. John Williams, Cae Coch, pan tua 22 mlwydd oed, a pharhaodd yn ffyddlon hyd y diwedd, heb dynu yr un cwmwl ar grefydd, na rhoddi achos i'r un eglwys ag y bu yn aelod o honi i'w galw i gyfrif am ei hymddygiadau. Yr oedd yn fwy tawel ei hysbryd na'r cyffredin o'i rhyw. Ni chlywid yr un chwedl anymunol yn cael ei hadrodd am dani yn y gymydogaeth, ac ni chlywid byth ei bod hithau yn adrodd o dŷ i dŷ yr un chwedl isel a niweidiol a glywsai am ei chymydogion, ond byddai bob amser yn siriol a dystaw, gan gadw pob gwaeleddau am eraill iddi ei hun.

Cyfarfu a llawer tro chwerw yn marwolaeth ei phlant a'i pherthynasau, ond sychai ei dagrau, gan ddywedyd, "Pan mae pawb yn fy ngadael, mae Iesu genyf eto." A'i hoff bennill pan mewn trallod fyddai:

"Mae'n felus meddwl ambell dro,
Wrth deithio anial le,
Ar ôl ein holl orthrymder dwys,
Cawn orphwys yn y nef."

Fel crefyddwraig, yr oedd yn un ffyddlon, ag ystyried ei hamgylchiadau. Nid oedd yn un a siaradai lawer, ac yn hyawdl, yn y cyfeillachau, yn hytrach ychydig fyddai ei hymadroddion; ond aml oedd ei dagrau, ac uchel oedd ei hocheneidiau, fel yr oeddynt yn llefaru yn llawer uwch na geiriau. Gweddiai lawer yn y dirgel. Teimlai yn rhy wan i dori allan i weddîo yn y teulu, er hyny ymhyfrydai yn fawr yn y gorchwyl; a thra y rhwymid y teulu yn dawel gan gwsg, byddai hi yn ddigon effro yn ei hystafell yn gweddio; ac yn wir, os bydd un yn gydnabyddus iawn ar y llwybr yn y dirgel, ac yn cymdeithasu â Duw yno, gellir penderfynu y bydd llwybr hwnw fel y goleuni, yn myned oleuach oleuach hyd haner dydd. Fel hyn y bu i'r chwaer hon, fel y credwrn, fyned trwy y glyn heb gael, nac ofni niwed; aeth trwyddo a'i phwya ar ei Hanwylyd aeth o freichiau ei pherthynasau i'r breichiau tragywyddol. "Y cyfiawn fydd byth mewn coffadwriaeth."
G. JONES.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ebrill 1869.