MRS. LAURA THOMAS, MARCY, ONEIDA, EFROG NEWYDD.
Mawrth 26ain, yn mhlwyf Marsy, Oneida, C. N., yn 57 oed, Laura, gŵraig John Thomas, o'r lle uchod.Ymfudasai i'r wlad hon er ys amryw flynyddau yn ol, o blwyf Llanhaiarn, swydd Gaernarfon.
Yr oedd yn aelod barchus a mynwesol o eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Utica; ac yr oedd ei buchedd a'i phrofiadau yn tystio i bawb a'i hadwaenai, nad allasai angeu wneuthur un niweid iddi hi - bod ganddi dŷ, 'nid o waith llaw, tragywydriol yn y nefoedd.' Wedi ymdrechu ymdrech deg, gorphenodd ei gyrfa yn dawel, a'i hymddiried yn Aberth y Groes.
Ei chlefyd ydoedd y Ddarfodedigaeth Gyflymaf.
Gosodŵyd ei gweddillion marwol i huno mewn corphlan cysylltiedig a Chapel y Cynnulleidfaolion yn y 'Gulf.'