MRS. MARY EDWARDS. COLUMBUS, WISCONSIN.
Hydref 27ain, 1870, yn Columbus, Wisconsin, MARY, priod John Edwards. Cafodd gystudd maith, ond yr oedd yn hynod dawel. Bu yn proffesu Crist am dros 40 mlynedd.Gellir dyweyd am dani mai un o heddychol ffyddloniaid Israel ydoedd, ac aeth i dangnefedd, ym marn yr eglwys a'i chymdogion.
Gadawodd briod, tri mab a dwy ferch i alaru ar ei hôl, mae yr oll yn proffesu ffydd yn yr un Gwaredwr.
Yr oedd yn enedigol o sir Gaernarfon. Ymunodd mewn priodas â Mr. John Edwards yn Festiniog, sir Feirionydd, ac ymfudasaut i'r wlad hon yn 1842. Buont yn Tallmadge a Youngstown, Ohio, 3 mlynedd - daethant i Wisconsin yn 1850.
Yr oedd y ddau yn aelodau gyda'r Annibynwyr cyn dyfod o'r hen wlad hyd eu dyfodiad i Wisconsin ac ymunasant gyda'r T. C, a bu Mrs. Edwards yn ffyddlawn hyd ei bedd.
Y mae iddi bump o frydyr yn Nghymru - tri yn Llanllyfni, sir Gaernarfon, sef Morrís, Richard a Robert Griffiths.
Claddwyd hi yn mynwent Salem, y Parch. John T. Roberts yn gweinyddu. Yr oedd tyrfa luosog wedi dyfod i ddangos eu cymwynas olaf iddi, y fwyaf a welwyd erioed yn yr ardal hon.