MR. GRIFFITH T. GRIFFITHS. HOLLAND PATENT, NEW YORK.
Hydref 11eg, 1870, yn agos i Holland Patent, Efrog Newydd, Mr. Griffith T. Griffiths, yn 72 mlwydd a 8 mis oed.Yr oedd yu enedigol o Bryncroes ond y mae yn debyg mai yn Crugiau Mawr, plwyf Llanfaelrhys, y treuliodd foreu ei ddyddiuu, ac aeth yn ei oes drwy lawer iawn o drafferthion amser a bu ar lawr dan lawer ton o ofidiau a chystuddiau.
Priododd yn gyntaf ag Elizabeth Evans o blwyf Llaniestyn, a bu hon farw. Gydag amser priododd â Margaret Howells, Ty mawr, plwyf Llanuwchllyn, chwaer i'r diweddar Barch. L. D. Howells, a bu hithau farw. Drachefn efe a ymgysylltodd mewn priodas â Mrs. Mary Griffiths o Utica, yr hon a fu yn ymgeledd gymwys iddo hyd derfyn ei daith.
Bu iddo driarddeg o blant, sef pump o'r wraig gyntaf, saith o'r ail, ac un o'r olaf, ac nid oes o'r oll ohonynt ond pump yn fyw, a'r oll mor bell fel nad oedd ond un yn uuig yn alluog i fod yn bresenol i'w hebrwng ef i dŷ ei hir gartref.
Er ei fod bob amser yn byw yn foesol, eto ni roddodd ufudd-dod cyflawn i'r efengyl hyd amser y diwygiad mawr yr hwn a fu yn y flwyddyn 1838 yn Utica a Steuben ac o hyny allan cafodd gymorth i ddal ei ffordd yn y blaen a chwanegu cryfdwr. Yr oedd yn dueddol o fod o ysbryd trallodus ac ofnus a gweld i'r ochr dywyllaf o bethau naturiol ac ysbrydol, eto nid oedd yn gwneyd dim niwaid i neb, yr oedd yn cael ei garu yn fawr yn mhob eglwys y bu yn perthyn iddi fel aelod gwybodus, syml, didwyll a ffyddlon.
Bu am rai misoedd hcb fod yn dda ei iechyd yn y Spring diweddaf wedi hyny drwy gael ymgeleddiad da fe allasid meddwl ei fod gwedi cael adferiad cyflawn, ond yn ddiarwybod cafodd ei oddiweddyd gan y bilious fever a hunodd yn angau cyn pen ychydig ddyddiau, diangodd o'n gafaelion yn annysgwyliadwy.
Dydd ei gladdedigaeth cyn cychwyn o'r tŷ cyflawnwyd gwasanaeth crefyddol. Yn addoldy Holland Patent dechreuwyd y moddion gan y Parch. T. Evans, pregethodd y Parch. J. R. Griffith, Floyd, yn Gymraeg, a James Grifliths, Utica, yn Saisoneg, yna awd a'r gweddillion i Wright Settlement i orphwys hyd y dydd olaf.
Gwynfyd y meirw sydd yn marw yn yr Arglwydd.