JOHN HUGHES, BROOKFIELD, MISSOURI.
Mawrth 6ed, 1870, yn Brookfield, Missouri, John Hughes, diweddar o Collinsville, Swydd Lewis, N. Y. Daeth Mr. Hughes i'r wlad hon yn lled ieuanc, o Ben y Groes, Llanllyfni, Arfon, G. C.Bu yn Utica am dymor yn gweithio ei gelfyddyd. Ymbriododd gyda Maria Griffiths, ac aethant i fyw i Collinsville, lle y bu Mr. Hughes yn weithiwr cryf a medrus am ysbaid 30 neu fwy o flynyddau.
Gwasanaethodd swydd diacon am ysbaid 18 mlynedd. Yr oedd yn garedig i roesawu dyeithriaid; bu ei dŷ fel llety fforddolion i'w gyd-genedl ar eu teithiau. Gwnaeth ymdrech ddiflin i sefydlu achos crefyddol mewn ardal ddigrefydd, ond sydd erbyn hyn yn cynwys tair eglwys i'r T. C, yn cynal bugail yn anrhydeddus. Mae rhai o'i gydymdrechwyr yn fyw eto yn yr ardaloedd.
Bydd eu coffadwriaeth yn fendigedig pan fydd eu cyrff yn llechu yn y llwch, a bydd eu gwaith mewn cyhoeddusrwydd yn y farn. Aeth Mr. Hughes a'i deulu i Missouri i fyw yn y flwyddyn 1868. Ymaflodd y dyfrglwyf yn ei babell, a fferyllodd ei holl gnawd ef yn ddwfr, a boddodd ei galon, a threngodd, yn 55 mlwydd oed.
Gadawodd briod, pedwar o blant, ac wyrion rai, mewn dwfn drallod yn eithaf y Gorllewin pell; ac nid oes ond Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon a all eu dyddanu. Nid ydym yn dyweyd nad oedd ynddo waeleddau, fel eraill, ond ni chofnodwn y rhai hyny, gan ein bod yn hyderus eu bod wedi eu maddeu. Ni wnai dygasedd ambell i elyn ei daflu i lesmair crefyddol fel na weithiai, ond gweithiodd yn lled sefydlog byd fachludiad ei haul, a chredwn fod ganddo grefydd a wnaeth farw yn elw iddo; a phan y cyfyd o'i wely pridd, dywed ei Frenin a'i Farnwr, "Da was da a ffyddlawn."