MRS. MARY HUGHES. BETHEL, REMSEN.
Chwefror 26ain, 1871, bu farw Mrs. Mary Hughes o ger Bethel, gweddw William R. Hughes, wedi gadael ei 94 mlwydd o'i hoedran. Yr ydoedd yn heini a iach o'i hoedran hyd o fewn ychydig ddyddiau i'w hangau.Brodor ydoedd o Leyn, sir Garnarfon. Ymfudasant i'r America o Tanyrallt ger Abereirch yn y flwyddyn 1831 a sefydlasant yn Remsen ger y lle a alwyd ar ol hyny Bethel.
Ymunodd â chrefydd yn Penlan, Pwllheli, yn amser Jones a Lewis yn gyd weinidogion. Yr ydoedd hi yn un o ychydig nifer yn dechreu yr achos Annibynol yn Abereirch.
Wedi sefydlu yn Remsen yr oedd iddi ffordd bell i ddyfod i'r capel Uchaf, Steuben, ond buodd ffyddlon am amryw flynyddoedd i gyrchu yno i foddion gras,trwy lawer o waeledd yn cerdded yr holl ffordd faith hyd y flwyddyn 1887 pryd y dechreuwyd achos Annibynol yn ei hardal ac yr oedd hi yn ffyddlon ac ymdrechgar i'w gynal, ei chalon a'i thy yn agored i'w gynorthwyo yn wyneb y gwendid mwyaf a pharhaodd yn aelod yn Bethel hyd angau, lle y claddwyd hi yn ochr ei phriod.
Gwelodd lawer o dywydd garw i allu crefydda yn nechreu ei gyrfa, ond yn y wlad hon cafodd ei phriod i gyd grefydda am lawer blwyddyn. Un ffyddlon iawn at y gweinidog ydoedd hi yn yr hen wlad ac yma hefyd, a byddai ganddi adnod i'w hadrodd braidd ar bob amgylchiad - croesawus yn ei thŷ yn ei ffordd arferol hi.
Yr ydoedd iddi un chwaer yn y wlad hon - chwaer gyfan, o'r un dad a'r un fam - gwraig William Prichard, y Glyn, Steuben, ieuengach na hi o dair blynedd a rhai misoedd. Buont feirw yr un noson o fewn tair awr i'w gilydd, yr hynaf yn marw am wyth o'r gloch a'r llall am un ar ddeg.
Yr ydoedd ei phump planr yn ei hangladd a llawer o wyrion, ac iddi tua ddeugain o orwyrion.
Gweinyddwyd yn ei hangladd gan y brodyr Edward Humphrey, Sem Phillips a Morris Roberts.
M. R.