MR. EDWARD JONES. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Rhagfyr 31ain, 1870, yn Utica, yr hen frawd Edward Jones. o Remsen. Yr oedd wedi symud i Utica i fyw gyd a'i ferch ers ychydig fisoedd.

Cafodd darawiad o'r apoplexy y Sadwrn cyn iddo farw, llai nac wythnos y buodd byw ar ôl ei daro.

Brodor ydoedd o tua Tydweiliog, Lleyn, sir Garnarfon. Buodd byw amryw flynyddau yn Liverpool, a symuuodd i America yn y flwyddyn 1831. Yr oedd yn ddeugain oed y pryd hyny - felly yr oedd tua 80 mlwydd pan y bu farw. Gŵr gweddw a chanddo 4 o blant ydoedd pan y daeth drosodd yma, a gŵr gweddw y parhaodd hyd ei angau. Gwneuthurwr esgidiau ydoedd wrth ei gelfyddyd, ac yn Steuben a Remsen y treuliodd y cyfan bron o'i amser yma. Yr oedd yn weithiwr gonest ac yn neillduol onest ymhob peth.

Cynorthwyodd ei ferch ar ôl colli ei gŵr i fyw a'i phum plentyn yn ffyddlon iawn - a chyda hi y bu byw hyd ei ddiwedd, a chafodd bob gofal ac ymgeledd ganddi hithau a'i phlant a theimlant yn alarus ar ei ôl.

Ymunodd â chrefydd yn 1838 yn y diwygiad mawr yn Steuben — cryn galed y bu hi arno dan yr argyhoeddiad, oblegid yr oedd yn lled anhawdd ei blygu yn naturiol ac wedi hen gynefino a diffodd argyhoeddiadau yr oedd yn rhaid i'r Duw mawr bron ei ladd cyn iddo ildio - a chaled iawn oedd dechreu gweddio yn enwedig yn y teulu a'r cyrddau gweddi.

Ond cymerodd yr iau a dygodd hi hyd y diwedd. Yr oedd yn ddarllenwr mawr, yn enwedig y Beibl, esponiad Hughes a llyfr Gurnall. Yr oedd yn gofiadur da ac adroddwr penodau yn y capel wrth ddechreu yr addoliad yn ddifethu. Buodd yn ddiacon yn eglwys Peniel am lawer o flynyddoedd hyd ei ymadawiad i Utica.

Y mae yn chwith iawn genym ar ei ôl - yr oedd yn frawd anwyl a ffyddlon.

Claddwyd ei weddillion marwol yn ochr ei fab ynghyfraith yn mynwent Fairchild, Reinsen, a gweinyddwyd yn ei gladdedigaeth yn Remsen gan y Parch. R. G. Jones yn Saesneg a chan M. Roberts yn Gymraeg - heddwch i'w lwch.
M. ROBERTS.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Chwefror 1871.