MRS. ELEANOR JONES. WATERVILLE, NEW YORK.
Ionawr 29ain 1870, yn Waterville, Efrog Newydd, ar ôl byr gystudd, Eleanor, priod Mr. Richard A. Jones, yn 70 mlwydd ei hoedran.Ganwyd Mrs. Jones mewn lle o'r enw Mynachdy Bach, Llangybi, sir Gaernarfon.
Yn y flwyddyn 1818 ymunodd mewn priodas â Mr. Richard A. Jenes a buont yn byw am amryw flynyddau yn Bryneinion, lle y cafodd Mrs Jones y fraint o ymuno ag eglwys Crist gyda'r T. C.
Ymfudasant i America yn y flwyddyn 1828, a buont yn byw yn nghymydogaeth Utica am yspaid 24 o flynyddoedd. Yr oedd Mrs. Jones yn mysg y rhai a ddechreuasant achos y T. C. yn Utica, a bu yno yn aelod ffyddlon am flynyddau lawer.
Yn 1852 symudasant i Gymydogaeth Waterville ac ymunasant a'r eglwys Gynulleidfaol Gymreig, lle y mwynhasant lawer o hyfrydwch yn ôl eu tystiolaeth eu hunain ac y cawsant y fraint o fod yn ffyddlon a defnyddiol gyda'r achos, a lle y terfynodd Mrs. Jones ei gyrfa ddaearol er galar dwys i luaws o berthynasau a chyfeillion crefyddol, ond er elw tragywyddol iddi hi fel yr ydym yn tawel gredu.
Ar ddydd ei hangladd daeth torf luosog o'i chyfeillion ynghyd. Traddodwyd pregeth ar yr achlysur gan y Parch, E. Davies, ei hen weinidog am yspaid yr un mlynedd ar bymtheg a haner diweddaf o'i hoes. Ac ar y Sabboth canlynol traddodwyd pregeth bwrpasol i'r amgylchiad gan y Parch. J. Owen, gweinidog presenol yr eglwys.
Bu i Mrs. Jones unarddeg o blant, saith o ba rai ydynt yn fyw i alaru eu colled ar ei hôl. Cafodd y fraint o ymuno a chrefydd yn lled foreu, a pharhaodd yn ffyddlon hyd angau - cafodd gymhorth i gadw yn gyson a difwlch gyda chrefydd am agos i haner can mlynedd, a gorphenodd ei gyrfa mewn llawenydd. Meddai Mrs. Jones ar radd helaethach o wybodaeth ysgrythyrol na'r cyffredin o wragedd ei hamser a'i hamgylchiadau, ac nid rhyfedd hyny, oblegid darllenai lawer ar lyfrau crefyddol, a'r Beibl oedd ei thrysor penaf.
Yr oedd er ys blynyddau wedi ei hamddifadu i raddau helaeth o'i chlyw, fel yr oedd dan anfantais fawr wrth wrando. Yr oedd ganddi barch calon i weision yr Arglwydd, a byddai yn hyfrydwch mawr iddi bob amser gael gwneuthur croesaw a dangos caredigrwydd iddynt er mwyn ei Meistr. Ni chafodd gystudd maith na phoeuus. Yn lled annisgwyliadwy i ni y cymerwyd hi ymaith.
Yr oedd Mr. a Mrs. Jones wedi prynu tŷ yn y pentref ac wedi symud iddo yn ddiweddar, er gallu bod yu gyfleus i'r moddion, a threulio gweddill eu hoes er cysur i'w gilydd. Ond cyn braidd iddynt fod wedi ymsefydlu yn iawn ynddo, cymerwyd Mrs. Jones yn glaf, a graddol wanychodd, ac yn mhen ychydig ddyddiau tawel hunodd yn yr Arglwydd, ae aeth hi i fyw i'r "ty nid o waith llaw, tragywyddol yn y nefoedd."
Hawdd fyddai ysgrifenu llawer am rinweddau y chwaer grefyddol hon; ond gwyddom fod cwyn gyffredinol am gofiantau meithion, felly terfynwn gan obeithio y bydd i'w phriod galarus, sydd wedi ei ymddifadu o'i chymdeithas hi, gymhorth yn ei henaint a'i unigrwydd i wneuthur ei chyngor diweddaf iddo, sef rhoddi ei hunnan i'r Iesu, ac i'r plant oll yn agos ac yn mhell nis gallwn ddymuno yn well nac iddynt feddu crefydd gyffelyb i grefydd eu mam.
D.