MRS. JANE JONES. MIDDLE GRANVILLE, NEW YORK.

DAETH ein chwaer i Middle Granville, Efrog Newydd, o Bethesda, Gogledd Cymru, yn 1857.

Yn y flwyddyn 1860, ymbriododd â Mr. Griffith Jones, un o Ddiaconiaid y lle. Cafodd ei dwyn i fyny yn grefyddol - ond fel llawer, bu allan am dymor o'r tŷ. Yr hyn fu yn ofid blin iddi dros ei hoes. "Ofnai yr Arglwydd yn fwy na llawer." Er ein hadnabyddiaeth gyntaf â hi yn ei theulu, wyth mlynedd yn ôl, nis gallem beidio a meddwl mai amcan blaenaf y teulu ydoedd byw i'r hwn fu farw drosdynt. Ymweithia yr amcan mawr hwn i'n golwg, yn ei hymwneyd â'r byd—addysgiaeth grefyddol y plant - ffyddlondeb i ddilyn yr achos mawr yn ei wahanol ranau.

A gwelsom aml bechadur gwrthwynebol yn gorfod rhoi eu ffordd droiau pan y byddent yn rhwystr i ymgyflwyno gyda'r achos crefyddol. Nis gallwn ymatal heb gyfeirio at un enghraifft o lawer, sef gwaith gwrthddrych ein cofiant mewn undeb a'i phriod yn myned i ardal Salem i fyw er mwyn bod yn gymorth i'r achos yno, hyny ar gais Eglwys Middle Granville. Bu yr ardal a nodwyd fel rhyw faes Cenadol gau yr eglwys hon am enyd o amser; ond ychydig, rhyw fodd, a allesid ei wneyd wrth fyned yn unig dros Sabboth yn awr a phryd arall yno. Wrth adgofio yr adeg hon, teimlwn yn ein mynwes yn awr barch mawr haelfrydedd yr eglwys yn ein hanfon yno yn lled aml, a phob amser yn dwyn ein holl dreuliau.

Ac hefyd at amryw yn Salem, am fod mor ffafriol yn nghychwyniad yr achos yno, yn enwedig John Edwards. Arddangosai ofal calon am yr achos yn y lle, gobeithiwn nad yw yn lleihau ond yn mwyhau; ond er pob peth, gwywo yr oedd sefyllfa pethau yn Salem yn fwy na dim arall. Yn y cyfamser darfu yr eglwys roddi cais at Mr, Jones a'i briod symud yno er mwyn ymgeleddu yr achos, a bod yn gymorth iddo, er fod yn anhawdd genym fel eglwys ei hebgor ar lawer cyfrif. Ac ar gais yr eglwys,symudodd ein brawd a'n chwaer ymadawedig yno.

Ystyriem y pryd hwnw, ac felly yn awr, ei bod yn gwneyd aberth lled fawr yn y symudiad hwn. Ond ni byddwn yn teimlo yn ddrwg un adeg pan y gwelwn gyfeillion yn gwneyd aberth er mwyn crefydd, oblegyd fel yr oedd yr offeiriaid gynt yn cael rhan o'r aberth yn gynaliaeth iddo, felly eto trefna y Duw mawr i'w blant fod pob aberth a offrymir yn nerth os nad yn wledd hefyd, yn ein goruchwyliaeth ni.

Ond bu y symudiad hwn yn fywyd o feirw i'r achos yn y lle. Cyn h!r, ffurfiwyd eglwys perthynol i'r T. C. yno. A chafwyd addoldy cysurus yno, ac ni fu ein hanwyl chwaer yn ôl o wneyd ei rhan yno. Yr oedd ei thŷ bob amser yn agored i dderbyn pawb a ddeuai yno gyda'r achos. A diau iddi fod yn llawer o nerth i feddwl ein brawd pan y byddai cymylau digon tywyll yn gordoi yr achos yn y lle.

Ond bu i iechyd ein chwaer waelu llawer yn yr ysbaid o 3 blynedd y buont yn Salem, ac ni phetruswn ddweyd na bu hyn i fesur mawr o herwydd y pwys a gymerodd arni ei hun yn nglyn a gwasanaeth yr achos yn ei ffordd ei hun yn y lle.

Yn Rhagfyr 1869, symudasant yn ôl i'w hen gartref i Middle Granville, ac yr oedd yn dda genym ei gweled, am fod y bwlch a wnaed yn eu hymadawiad heb ei lanw nes iddynt ddychwelyd. Ac erbyn hyn yr oedd yr achos yn Salem mewn sefyllfa y gallesid troi eu cefn arno, a dynion eraill gofalus yn aros yn y lle, i'w ddwyn, yn mlaen. Dywedai wedi dychwelyd wrth ei chyfeillesau fod yn dda ganddi ddyfod yn ôl; ond cŵynai yn aml nad oedd yn cael gweini gymaint i weinidogion yr efengyl. O! fy anwyl chwaer, gwaethost lawer i mi a'm brodyr; ond ar gyfer y cwbl, gwelaf ddigon i ti yn Math. xxv. 40, " Yn gymaint a gwneuthur o honoch i un o'r rhai lleiaf, i mi y gwnaethoch."

O ran ansawdd ei phrofiad crefyddol ofni ac amheu llawer y byddai. Ceir ambell i bren yn y goedwig hardd a defnyddiol iawn, heb fod rhyw ffrwyth addfed a melus arno, ac eto ni ellir gwneyd hebddo. A gwell genym gael buchedd gywir, cyson, yn arddangos y Cristion heb fedru proffesu rhyw brofiadau uchel yn hytrach nac addef profiad uchel a buchedd anghyson ac afler. Yr oedd ei chalon yn fawr ar Lyfr y Psalmau, llyfr Gurnal, a Phenillion Williams ac Anne Griffiths. Arddangosodd dawelwch ac amynedd Cristion yn ei chystudd diweddaf.

Hydref 27, 1870, gorphenodd yr yrfa, yn 33 oed, gan adael ei phriod a'i thri phlentyn i alaru ar ei hôl. Duw Jacob a'i diffyno.

Cafodd gladdedigaeth barchus.
JOHN JONES. Emporia, Kansas.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Gorphenaf 1870.