MR. JOHN J. JONES. NEW CAMBRIA, MISSOURI.

TACHWEDD 2ail, 1870, yn New Cambria, Missouri, yn 71 mlwydd oed.

Mab ydoedd i Evan a Cathrin Jones, Nant Pasgen Fawr, Plwyf Llandecwyn, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru.

Yn y flwyddyn 1832, symudodd i'r America, arhosododd am bedair blynedd yn Utica, New York.

Yn y flwyddyn 1835, ymunodd â chrefydd gyda'r T. C., gyda'r cyfryw rai y parhaodd yn ffyddlawn hyd y diwedd. Yn fuan wedi hyny priododd â merch i Richard Thomas o Dolgellau.

Yn y flwyddyn 1836, symudasant i Palmyra, Ohio, lle y buont yn aros am 28 o flynyddoedd. Oddeutu 20 mlynedd yn ôl ymunodd ar achos Dirwestol, ac yr oedd yn Ddirwestwr egwyddorol a selog iawn.

Yn y flwyddyn 1865, symudasant i New Cambria, Missouri, ac am y pum' mlynedd diweddaf, buwyd yn cynal moddion crefyddol yn yn eu tỳ hyd nes y cafwyd ysgoldy newydd hardd yn y gymydogaeth.

Yr oedd i raddau yn gystuddiol er ys blynyddau, a chafodd gystudd trwm am 19eg o wythnosau ac yn boenus iawn ar amserau, eto dioddefodd y cwbl yn hynod o dawel a dirwgnach.

Yr oedd yn hoff iawn o ganu mawl, bu gyda'r cyfryw wasanaeth i raddau yn llafurus a defnyddiol; ac nid oedd yn ddarostyngedig i'r gwendidau sydd yn dueddol i lawer sydd yn blaenori gyda'r canu. Yr oedd ef yn hynod ddiymhongar ac anhmarod i dramgwyddo. Yr oedd o ran ei feddwl yn hynod dawel yn ei gystudd, i raddau yn hyderus am ei gyflwr tragywyddol.

Tranoeth i ddydd ei farwolaeth ymgynullodd lluaws ynghyd i dalu y gymwynas olaf ìddo. Claddwyd ef yn mynwent newydd New Cambria. Cyflawnwyd y gwasanaetn crefyddol ar yr achlysur gan y Parchn. John T. Williams a Moses Wiiliams. Dymunir i raì o gyhoeddiadau Cymry godi yr uchod er mwyn eu perthynasau yn yr Hen Wlad.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Tachwedd 1871.