MR. HUGH R. MORRIS, NEW YORK.

Ganwyd Hugh R. Morris yn y Garndolbenmaen, Sir Gaernarfon, tua'r flwyddyn 1816. Enwau ei rieni oeddynt Robert a Catherine Morris. Bu y ddau feirw o fewn ychydig ddyddiau i'w gilydd, pryd nad oedd Hugh ond dwy flwydd a haner oed, gan ei adael ef a saith o blant eraill i ofal Tad yr amddifaid. Byddai yn rhyfeddu gras Duw yn edrych ar greadur bychan, amddifad fel efe, gan ei gipio fel pentewyn o'r tân.

Ymunodd â chrefydd pan oedd o 15 i 16 mlwydd oed. Bedyddiwyd ef trwy daenelliad, ar ei gyffes o'i ffydd yn y Gwaredwr. Nid oedd wedi ei fedyddio yn ei fabandod. Yr oedd ei dad yn bregethwr gyda'r Bedyddwyr. Yr oedd amryw hynodion yn perthyn i H M., a rhai gwir deilwng o'u hefylychu. Daeth i America tua 21 mlynedd yn ôl. Ni bu erioed yn briod.

Yn New York y cartrefodd gan mwyaf, a chawsom lawer o fantais i'w adnabod er pan ddaeth yma. Yr oedd tipyn o ryw ddigrifwch ffôl, plentynaidd, yn perthyn iddo, a byddai yn anhawdd peidio gwenu ar brydiau wrth ei weled a'i glywed; ond yn gymysedig a hyny yr oedd athrylith gref, ac egwyddorion gwir anrhydeddus, nes ein rhwymo i'w barchu fel un o rai rhagorol y ddaiar.

Yr oedd ganddo ddawn hynod o ymadroddus, ond yn rhy gwmpasog, a hyny oedd ei ddiffyg mwyaf. Yr oedd yn ddarllenwr mawr ar y Beibl, a llyfrau da eraill. Yr hen dduwinyddion puritanaidd oedd ei gyfeillion penaf. Yr oedd yn hen Fethodist o'r iawn ryw mewn athrawiaeth a dysgyblaeth. Rhagorai lawer ar y cyffredin mewn gwybodaeth dduwinyddol; anhawdd crybwyll adnod, nac un pwnc o dduwinyddiaeth, nas gallai ef roddi goleu arnynt yn ddiymaros. Yr oedd hyny i'w briodoli i'w gof; cofiai y rhan fwyaf a ddarllenai ac a wrandawai. Clywsom ef yn adrodd rhanau helaeth o ddwsinau o bregethau hen enwogion penaf y pwlpud Cymreig.

Yr oedd yn dra hoff o'r Ysgol Sabbothol; ymbleserai yn fawr mewn dysgu gramadeg, darllenyddiaeth, ac egwyddorion crefydd i'r ieuenctyd. Yr oedd rhinweddau ein cyfaill yn llawer trymach na'i ddiffygion fel dyn, ac fel Cristion. Yr oedd yn garedig dros ben, yn enwedig os gwelai angen; ac yr oedd uniondeb ei egwyddor, a chywirdeb diledrith ei holl ymdrafodaeth a'r byd a chrefydd wedi ei osod ar dir yn mhell uwchlaw pob amheuaeth yn meddyliau ugeiniau sydd yn fyw heddyw, o'r rhai a'i hadwaenent oreu. Byddai yn llawer gwell ganddo bob amser oddef cam na chynyg un cam i neb arall. Er hyny cafodd ffordd led arw yn y glyn, yn neillduol y ddwy flynedd olaf o'i oes.

Tua dwy flynedd yn ôl aeth i drin ffarm, lle y bu yn llafurio yn galed am dri neu bedwar mis; ond ryw fodd, yn anffodus iawn, dyrysodd ei synwyrau, fel y gorfuwyd ei roddi yn y gwllgofdy, lle y bu am rai wythnosau. Pan wellâodd, anfonodd ei gyfeillion arian i'w gyrchu yn ôl i New York. Ychydig a allodd wneyd wedi hyny, ond adfeiliodd yn raddol hyd ei fedd. Yn ystod y deuddeng mis olaf dangosai lawer o ysbryd Cristionogol yn llywodraethu ei feddwl. Pan yn dyoddef gorthrwm oddiwrth ryw amgylchiadau, hysbys i ni, yn lle mynu cael cyfiawnder, dywedai fod "yn well ganddo ef ddyoddef na gwneyd cynhwrf - y cai pawb eithaf cyfiawnder mewn court sydd yn ymyl;" ac ychwanegai: "Rhyw gystudd deng niwrnod ydyw hwn - bydd y cwbl drosodd yn fuan." Cafodd adnewyddiad i'w feddwl yr wythnosau olaf wrth fyfyrio ar eiriolaeth yr Arglwydd Iesu yn y nef. Yr oedd yn hynod yn y Society, ac yn y cyfarfod gweddi bymthefnos cyn iddo farw; nid annghofir byth mo'r weddi hono gan rai oedd yn clywed.

Ni chafodd hamdden i ddyweyd nemawr yn ei oriau olaf. Ehedodd ymaith yn hynod ddisymwth. Y noson olaf, adroddem ranau o bregeth y Parch. Mr. Powell iddo, sef fod yr Arglwydd am ein cael ato ei hun o bob man, ac yn mhob cyfyngder, ac mai mewn eithaf cyfyngder y mae Ef yn barotaf i'n derbyn," a.y. Edrychodd arnaf a dywedodd, "Mae hyny yn dda iawn i mi heno."

Bu farw Ebrill 18fed, 1870. Claddwyd ef yn barchus yr 20fed yn nghladdfa Cypress Hill - y Parch. H. Powell yn gweinyddu yn y capel, cyn cychwyn, ac wrth y bedd. Ysgrifenwyd y cofnodiad hwn ar gais amryw gyfeillion.
CEPHAS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Gorphenaf 1870.