MRS. JANE WILLIAMS, ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Ebrill 18fed, 1843, Mrs. Jane Wílliams, gwraig Mr. Richard P. Williams o blwyf Rome, C. N., yn 66 mlwydd oed, wredi byr gystudd o 4 diwrnod, sef y goluddwst (colic.)Bu yn aelod o eglwys Crist o leiaf 35 o flynyddau - y 10 mlynedd cyntaf yn Nghymru gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Ymfudodd gyda'i theulu o blwyf Llanor, swydd Gaernarfon, i'r wlad hon oddeutu 25 o flynyddau yn ôl. Ymunodd yn y wlad hon gyda'r Annibynwyr. Bu ein hen chwaer hon yn ddi-ddolur i achos crefydd trwy ystod ei gyrfa grefyddol. Darllenodd lawer ar ei beibl, ac achubai bob cyfle i'w ddarllen.
Yr oedd yn byw rhwng 2 a 3 milldir oddiwrth gapel Bethesda, Floyd, lle yr ydoedd yn aelod y blynyddoedd diweddaf o'i hoes; ac o herwydd ei gwaeledd corfforol byddai yn aml yn cael ei hymddifadu o foddion cyhoeddus, ond darllen ei beibl oedd ei phleser, a'i gynwysiad, ei chysur; fel yr ymddangosai yn amlwg yn y cyfeillachau neillduol. Tystiodd yn eglur fod crefydd yn werthfawr wrth wynebu angau, ac yr oedd yn siriol yn ngwyneb brenin braw.
Daeth tyrfa luosog o Gymry a Saeson yn nghyd yr 20fed o'r mis i dalu'r gymwynas olaf i'w gweddillion marwol. Pregethwyd ar yr achlysur gan Mr. Isaac Davies, T. C, oddiwrth Dat. 14: 13. Ar ôl y bregeth cychwynwyd y corff tua chladdfa sydd ar dir Jonas Wallace, lle y tawel huna hyd fore caniad yr udgorn.