MRS. ELIZABETH PRICHARD. GLYN, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mrs. Elizabeth Pritchard, Glyn, Steuben. Enwau ei rhieni oedd William ac Ann Williams.

Ymfudodd Mrs. Prichard i Ameriea yn ferch ieuanc yn nheulu ei rhieni, a chydag eraill o'r un gymydogaeth yn y flwyddyn 1800. Glaniasant yn mhorthladd Philadelphia, ac yno, yn fuan ar ôl ei dyfodiad i'r wlad ymunodd mewn priodas a Mr. William Prichard o'r un gymydogaeth.

Buont byw tua phum mlynedd yn Philadelphia, yna daethant ymlaen i Steuben, a phrynasant dyddyn a alwasant y Glyn, lle y treuliasant weddill eu hoes - bu farw 16 mlynedd o'i blaen hi yn ngwanwyn 1854.

Bu iddynt 10 o blant - 3 oeddynt wedi eu mam i'r byd tragwyddol - a'r 7 eraill oeddynt yn bresenol yn ei chladdedigaeth.

Yr oedd Mrs. Prichard wedi uno â chrefydd, yn aelod o'r eglwys Gynulleidfaol yn y Capel Ucha er's tua 42 o flynyddoedd.

Yr oedd yn dra siriol a pharod yn ei chyfraniadau at achos yr Arglwydd, a dygodd ei theulu i fyny yr yr un ysbryd. Yr oedd yn chwaer grefyddol gymeradwy - yn un dawel, diwyd a ffyddlon gyda'r achos - a pharhaodd felly nes gorphen ei gyrfa mewn tangnefedd, a myned adre, fel y mae ein hyder yn fawr, o'r byd trallodus hwn i lawenydd ei Harglwydd.

Yr oedd o fewn 3 mis i 91 mlwydd oed. Yr oedd iddi, pan bu farw, dros 80 o hiliogaeth, yn blant, wyrion ac or-wyrion.

Claddwyd hi wrth ochr ei phriod yn mynwent y Capel Ucha, Steuben, a gweinyddwyd gan y brodyr Roberts, Everett, Phillips ac E. Humphreys.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ebrill 1870.