MRS. JANE PRICHARD. NINETYSIX, REMSEN, NEW YORK.

Mawrth 2ail, 1870, Mrs. Jane Prichard, gweddw Mr. Griffith Prichard o Aberdaron, sir Garnarfon gynt, ac o Ninetysix, plwyf Remsen, ar ôl hyny.

Claddwyd Griffith Prichard yn Penycaerau ers 30 mlynedd. Buodd hi byw ar ôl hyny gyda ei phlant gan mwyaf yn enwedig ei merch Gwladys.

Cafodd gystudd hirfaith y gauaf diweddaf. Hen chwaer wir grefyddol ydoedd hi dros oes hir faith, aelod yn Penuel Remsen, ond yn byw yn Coal Brook, ymhell o gyraedd moddion gras yn Gymraeg - cyrhaeddodd ei 85 mlwydd o'i hoedran.

Gadawodd ddau fab a merch a rhai wyrion i alaru ar ei hol. Claddwyd hi yn Penycaerau, Remsen, a gweinyddwyd gan Morris Roberts.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ebrill 1870.