MR. EVAN WILLIAMS, JESSIE, SAN FRANCISCO, CALIFORNIA.

Tachwedd 21ain, yn San Francisco, California, Mr. Evan Williams, druggist, yn 65 oed.

Brodor o Lleyn, swydd Arfon, Gogledd Cymru. Yr oedd yn frawd ynghyng-hyfraith i'r diweddar Dafydd Williams, Penrhyndeudraeth.

Y Cenhadwr Americanaidd Ionawr 1871.


MR. EVAN WILLIAMS, SAN FRANCISCO COUNTY, SAN FRANCISCO, CALIFORNIA.

Cafodd Evan Williams ei eni yn Gelliwig, Bryncroes, bedyddio yn Eglwys Bryncroes ar 6/12/1808.

'Roedd Evan yn fab anghyfreithiol i'r Milwriad Evan Jones, Gelliwig ac Ann Williams, oedd yn gweithio fel cogyddes i Ann Sorton mam Evan Jones.

'Roedd Evan Williams wedi hyffforddi yn y greft o druggist ac yr oedd yn arfer y grefft honno ym Mhwllheli.

Priododd Evan Williams gyda Mary Wynn Williams (1812-1854), merch David a Jane Williams, Saethon ym mhlwyf Llanfihangel Bachellaeth ar 7/3/1828 yn Eglwys Deneio.

Ganwyd chwech o blant iddynt Ann Sorton Williams. 1828.

Jane Williams. 1832.

David Williams . 1833.

Margaret Williams. 1835.

John Rees Williams. 1837.

Edward. 1840.

Yr oedd y Milwriad Evan Jones, Gelliwig wedi priodi Anna Maria Kenyon o Wrecsam, ac yn Wrecsam y bu farw yn 1821.

Bu Ann Sorton, Gelliwig, mam Evan Jones farw yn 1832 yn Gelliwig yn 84 oed ac mae ei gweddillion wedi cael eu claddu gyda John Jones, ei hail ŵr ym Mynwent Bryncroes. Yn ei hewyllys gadawodd Ann Sorton, Gelliwig i Evan Williams, (ei hwyr).

Yn 1844 gwerthwyd Gelliwig i Dr Abraham Jones Williams, Saethon, brawd i Mary Wynn Williams.

Ar y 13eg o Ionawr 1845 'roedd Evan Williams yn cerdded o Bwllheli i gyfeiriad Gelliwig a phan oedd ar y ffordd gyferbyn ac Eglwys Penrhos daeth rhyw berson anhysbus o'r tu ôl iddo a'i saethu yn ei gefn. Aeth y belen trwy ei gorff, ac er ei fod wedi colli llawer o waed fe wellodd yn raddol. Ni chafwyd hyd i'r person a wnaeth yr anfadwaith yma na chwaith y rheswm dros y fath ymosodiad.

Ar ol iddo wella bu Evan Williams yn canlyn ymlaen gyda'i grefft fel druggist yng Nghaernarfon.

Yn weddol fuan ar ôl hyn ymfudodd y teulu i'r America, pawb ond Ann Sorton Williams, arhosodd hi ym Mhwllheli.

Sefydlodd Evan Williams a'i deulu yn California, ble 'roedd yn dal i weithio fel druggist.

Bu Mary Wynn Williams farw yn 1854 yn 42 oed.

Mae ei gweddillion wedi cael eu claddu ym mynwent Yerba Buena yn San Fransisco.

Bu Evan Williams farw ar 21/11/1870 yn 62 oed.

Mae ei weddillion wedi cael eu claddu ym mynwent Laurel Hill yn San Fransisco.

Glyn Roberts ~ Tachwedd 2021.


MR. EVAN WILLIAMS, SAN FRANCISCO COUNTY, SAN FRANCISCO, CALIFORNIA.

ATTEMPTED ASSASSINATION.

We deeply regret the necessity of recording in these columns an event of a shocking description, as having occurred in the lowest part of this country, the more horrifying as taking place in a country unstained by crime - a deliberate, cold-blooded, and it may be successful attempt at assassination.

The object of the outrage in question is Mr. Evan Williams, of Gelliwig, Lleyn, whose reputation is that of a kind inoffensive man.

On the night of Monday 13th instant, he was returning home from Pwllheli, in company with his wife, and had almost reached Penrhos Church, when footsteps were heard approaching in the direction from whence they came; immediately after a shot was fored from behind, and Mr. Williams was struck down by a ball which entered his back and passed through the lower extremity of the abdomen.

In his agony he exclaimed that he was a dying man, and Mrs. Williams, almost frantic with horror, cried out "murder," and ran to the nearest farmhouse called Gegin Bach, informing the inmates of the catastrophe. By the time they had returned to Mr. Williams, their friend, Mr. Martin, of Gelliwig, had rode up from the town to the spot, and was horrified to witness the scene.

The villain in the meantime, had made his escape.

The wounded sufferer was taken to the farm house, and medical aid obtained as quickly as possible. Had the ball taken a little deviation from its actual course through the body, death must have been inevitable, if not instantaneous.

A reward of £50 is offered for the apprehension of the miscreant who attempted Mr. Williams's life. The accounts last received are as favourable if not more so than could be expected under the circumstances of the case - of a nature even to warrant the hope of ultimate recovery.

One person, to whom suspicion pointed, had been taken into custody, but no sufficient proof was forthcoming to justify his detention.

North Wales Chronicle ~ January 21st, 1845.


MR. EVAN WILLIAMS, SAN FRANCISCO COUNTY, SAN FRANCISCO, CALIFORNIA.

Tachwedd 21ain, 1870 yn San Francisco, Califfornia, Mr. Evan Williams, druggist, yn 65 oed.

Brodor o Lleyn, swydd Arfon, Gogledd Cymru.

Yr oedd yn frawd ynghyfraith i'r diweddar Dafydd Williams, Penrhyndeudraeth.
W. O. W.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ionawr 1871.