MR. THOMAS WILLIAMS. PLAINFIELD, OTSEGO COUNTY, NEW YORK.

BYR HANES BYWYD A MARWOLAETH.

"Tomas, pan ddaeth y tymor, - a dynwyd
Drwy donau marwol-fôr;
Ei obaith llawn yn Iawn Ior,
Yn nydd ing oedd ei angor."

Mab ydoedd Thomas Williams i William a Mary Williams.

Ganwyd ef Mawrth 26ain, 1843, mewn amaethdy o'r enw Erw Bach, ger tref y Bala, Meirionydd, Gogledd Cymru.

Pan oedd yn dra ieuanc symudodd y teulu i blwyf Llanuwchllyn yn yr un gymydogaeth. Pan oedd efe o gylch 9 mlwydd oed, ymfudodd y teulu i America, a sefydlasant yn Steuben, New York.

Pan oedd yn 15 oed ymunodd ag eglwys y T. C. yn Penygraig, a bu yn ffyddlon gyda'r Ysgol Sabbothol a phob moddion eraill tra bu yno. O gylch dechreu y rhyfel cartrefol symudasant oll fel teulu i Plainfield, Otsego County, New York. Y pryd hwn teimlai yn ddyledswydd arno i amddiffyn ei wlad. Nid y wobr a'i cymhellai, gan nad oedd hono ond bychan ar y pryd.

Awst 23ain, 1862, ymrestrodd i'r 121st New York Volunteers, a hu yn gyfranog yn mhoh brwydr a ymladdwyd gan y 6th Corps hyd o gylch haner ei amser. Y pryd hwnw cafodd gynyg a dewisodd symud i'r 3rd N. Y. Ind. Batery, gyda'r rhai y gwasanaethodd fel Corporal hyd ddiwedd y rhyfel; ac yr oedd yn bresenol pan roddodd y Cadf. R. Lee ei hunan i fyny; a Medi 24ain o'r flwyddyn hono rhyddhaodd y llywodraeth ef yn anrhydeddus, a daeth adref yn iach a chryf. Ac er cwympo miloedd o'i amgylch, cadwodd rhagluniaeth ef yn ddianaf. A thrwy gymorth gras cadwodd ei broffes heb dynu gwaradwydd ar grefydd Crist.

Yn y flwyddyn 1868 meddyliodd am gael cartref iddo ei hun i dreulio gweddill ei oes mewn heddwch. Prynodd ddarn o dir yn Iowa, eithr nid hir iawn y bu yno cyn colli ei iechyd, a bu gorfod gwerthu y tir a dychwelyd adref, yn wan a gwael iawn, a'r pryf dinystriol, y darfodedigaeth, wedi gafaelyd yn ei gyfansoddiad. Ond gwedi cyraedd bryniau iachus Plainfield, ail-adnewyddodd a chryfhaodd lawer, a pharhaodd yn dda iawn am o gylch blwyddyn, er y gwyddai ef a ninau nad oedd ond tebyg i ddiwrnod teg o flaen storm.

Felly ymffyrnigodd yr hen afiechyd, a gwelsom ef yn gwywo fel rhosyn wedi ei daro gan rew Hydref. Nid oedd mor oleu arno ag y dymunasai pan yn teithio trwy'r glyn; er hyny hyderai ei fod mewn undeb anwahanol â Iesu Grist, yr hwn a broffesodd ers cynifer o flynyddoedd. Ni allodd ddweyd dim am y ddau ddydd diweddaf y bu byw, gan fyred ei anadl.

Bu farw Medi 20fed, 1870, yn 27 mlwydd. a 6 mis oed, ac ar yr 22ain o'r un mis daeth tyrfa fawr iawn o Gymry a Saeson i hebrwng ei gorff gwael i briddellau mynwent Unadilla Forks.

Gweinyddwyd gan y brodyr Owen Jenkins a Thomas H. Griffiths.

Dyma un rhybudd newydd i ni oll. Ond mae yn llefaru yn uwch wrth ieuenctid Plainfield. Ychydig yn ôl pwy o honoch oedd barotach yn y cyrddau llenyddol i lefaru ar unrhyw fater, neu ddadgan dernyn o farddoniaeth neu gân swynol? ond heddyw y mae ef wedi distewi am byth! O ieuenctid! ystyriwch y gall mai rhai ohonoch chwi fydd mor fûd cyn pen y flwyddyn ag ydyw ef heddyw. Ymofynwch am gyfaill a lyn pan fyddo pawb eraill yn gorfod troi yn ôl.
E. H.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Chwefror 1871.