MR. WILLIAM P. DAVIES. RACINE, WISCONSIN.
Ebrill 12fed, 1871 yn Racine, Wisconsin, o'r rheumatism of the heart, William. P. Davies, yn 51 mlwydd, 11 mis a 9 diwrnod oed.Yr oedd Mr. Davies yn enedigol o Glynog, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Yr oedd ei dad yn flaenor gyda'r Bedyddwyr yn Bont Llyfni ac yn gefuder i'r anfarwol J. Elias o Fôn. Bu Mr. Davies yn wrandawr cyson am flynyddau gyda'r Cynulleifawyr yma yn mha eglwys y mae Mrs. Davies a'r fereh hynaf Miss Maggie Davies yn aelodau cyson yn awr.
Bu iddynt chwech o blant, o ba rai y mae pedwar yn fyw. Jobn, y mab hynaf, yn dysgu bod yn delegraph operator - yn ddyn ieuanc addawol wedi cael addysg dda - y ferch hynaf yn ddressmaker.
Tuag 28 mlynedd yn ôl y daeth Mr. Davies yma ac yn mhen tua saith mlynedd wedi hyny ymunodd mewn glân briodas â Miss Ann Pugh yr hon a fu iddo yn briod ffyddlon hyd ei fedd. Y mae cartref a theulu Mr. Davies yn dangos ei fod yn ddyn diwyd, ymdrechgar a ffyddlon. Machinist oedd wrth ei gelfyddyd. Byddai yn hoff o ddarllen llyfrau da yn enwedig pregethau y Parch. Christmas Evans.
Gweinyddwyd ar ei gladdedigaeth gan y Parch. W. Hughes yn absenoldeb yr ysgrifenydd.
W. WATKINS.