MR. JOHN EVANS. FORESTON, IOWA.

Yn ardal Foreston, Iowa, Mehefin 24ain, 1871, tad y Parch. John J. Evans o'r un lle, yn 77 mlwydd oed.

Daethai i'r wlad hon o Tanyfoel, Llanddeiniolen, swydd Gaernarfon, ryw 27 mlynedd yn ôl.

Yr oedd yn un o sefydlwyr cyntaf Welsh Prairie, Wisconsin.

Symudodd oddi yno i Portage Prairie, ac oddi yno symudodd i'r gymydogaeth hon, 4 blynedd yn ôl.

Ni bu yn glaf ond wythnos a phedwar diwrnod. ac efe oedd y cyntaf' o'r teulu a fu farw wedi eu dyfodiad i'r wlad hon.

Ymunodd a chrefydd dros 40 mlynedd yn ôl, a thystiai wrth farw nad oedd ganddo neb i bwyso arno ond yr Arglwydd Iesu Grist.

Yr oedd yn hen gymeriad lled hynod, ac adnabyddus iawn i lawer.

Cafodd un o'r angladdau lluosocaf a welwyd yn y cylchoedd hyn yn mhlith y Cymry; pryd y gweinyddwyd yn y ty cyn cychwyn gan yr Ysgrifenydd, ac wrth y bedd, gan y Parch John. D. Williams, ac un o'r Sabbothau canlynol pregethwyd pregeth angladdol iddo gan y Parch. D. T. Rowlands, oddi wrth y geiriau "mewn ffydd y bu farw y rhai hyn oll."
OWEN R. MORRIS.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Tachwedd 1871.