MRS. ELIZABETH GRIFFITHS, NEW YORK.

Ar eich cymhelliad ysgrifenwyf ychydig am fy anwyl briod, yn fy nwfn alar ar ei hol - yr hon a gymerodd yr Arglwydd ato ei hun o'i hirfaith gystudd, fel yr ydwyf fi a'm plant yn dra hyderus, i'r ' breswylfa lonydd, lle ni ddywed y preswylydd, Claf ydwyf' Ac yn wir y mae hyn yn mantoli hyd lawr ar droiau ein holl dristwch.

Pell iawn ydoedd hi, a chyn belled ydwyf finau oddiwrth feddwl am wneuthur un math o glodair (eulogy) ar ei hôl, - ond dymunwn ddyrchafu gras ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a'i cofiodd yn ei hisel-radd, a'i cyfododd o bwll llygredigaeth, ac a'i gosododd gyda phendefigion ei bobl ef.

Ganwyd hi yn mis Chwefror, 1784, o rieni duwiol, adnabyddus i amryw yn y wlad hon, sef Evan a Margaret Thomas, o'r Gwyddel Uchaf. Uwchmynydd, Aberdaron, swydd Gaernarfon, pa rai a fuant yn dra ffyddlon mewn gair a gweithred i feithrin eu plant yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Bu ei thad yn flaenor llafurus a ffyddlon yn eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Uwchmynydd, am o ddeugain i hanner cant o flynyddoedd, ac wrth fedd wl am ei ymddygiad ef a'i briod gyda'i deulu, mynych y meddyliais am y geiriau hyny, ' Y cyfiawn a rodia yn ei uniondeb : gwyn eu byd ei blant ar ei ol ef' Daethant hwy a ninau i'r wlad hon yn 1823. Buant yn ffyddlon iawn cyn myned i'r bedd, yn nhrefniad dechreuol Corff y Methodistiaid yn y wlad hon. Mae y rhan fwyaf o'u plant, ac amryw o'u hwyrion, yn aelodau parchus yn eglwysi yr un cyfundeb hyd y dydd hwn. Blaenodd y chwaer hynaf er's mwy na saith mlynedd trwy angeu, gan adael tystiolaeth dda ar ei hol.

Yr oedd gweithrediadau o eiddo yr Ysbryd Glan ar feddyliau tyner fy ngwraig er pan oedd yn blentyn pur ieuangc. Derbyniwyd hi yn nelod cyflawn o'r e»lwys Jle yr oedd ei thad a'i mam, pan ydoedd ond tair-ar-ddeg mlwydd oed.

Caf nodi rhai o'r nodweddiadau, yn mha rhai yr oedd gras yn llewyrchu ynddi. Yn ei theulu yr adnabyddid yn benaf pa beth oedd hi fel Cristion - ei bywyd gwastad a manwl, yn rhodio yn ofn yr Arglwydd - ei rhybuddion, ei gocheliadau a'i chynghorion, yn nghyda'i gweddiau a'i deigrau dystaw yn achos ei phlant, a dystiai ei gofal am eu magu i Dduw; a hyderu yr wyf na fu ei llafur yn hollol oferyn yr Arglwydd.

Nodedig o ddystaw ydoedd yn mhob man arall trwy ei hoes. Ofnai ddweyd yr hyn a brofai, oddyeithr rai pryd- iau pan f ai ei llestr wedi ei lenwi, ac yn myned drosodd, gan fawl a gorfoledd.

Mae yn gofus iawn eto i'w phlant ei hymddygiadau tuag atynt, pa rai a adawsant argraff anniléadwy ar eu meddyliau. Yn flaenaf, ei dullyn eu ceryddu. Ei nodweddiad rhagorol fel mam ydoedd yn hyn - na wnai byth ofera (trifle) â'i phlant; na ofynai iddynt wneyd ond yr hyn a allent yn hawdd, ac na chymerai ei nacau o'r hyn â ofynai. Nid oedd yn llym, yn hytrach yn serchiadol a mwynaidd, oddyeithr fforffedu ei gwênau wrth droseddu, a cholli ei gwên oedd lawer trymach na'r wînlen. Ni fwyth-fagodd yr un o'i phlant - hyn a ffieiddiai fel peth rhy isel, nid yn unig iddi ei hun, ond iddynt hwythau hefyd. Triniai hwynt fel creaduriaid rhesymol o'u mebyd, yr hyn a ennillodd eu hanwyldeb tuag ati tra fu byw; a bydd ei choffadwriaeth yn anwyl iawn iddynt eto. Pan droseddent, ymresymai â hwynt yn bwyllog: dangosai ddrwg y bai, a nodai yr amser y ceryddai hwynt. Ni cheryddodd hwynt erioed mewn tymher wyllt; ond pan ddeuai yr amser ni oddefai i ddim attal gweinyddiad y cerydd. Dangosai ddrwg y weithred, dyben y cerydd. Yn fynych elai hi a'r plentyn ar eu gliniau, erfyniai yn daeram fendith ar y cerydd, ac. anfynych y teimid y wialen gan y clwyf a wneid trwy yr ymddyddan, y weddi a'r deigrau. Canwnith trosodd y dymunasent ddadwneyd y trosedd - nid i'w hachub eu hunain, ond rhas: rho'i loesion i deimiadau eu hanwyl fam. Dyma y modd yr ennillodd hi ei phlant i'w hofni, eto ei charu a'i pharchu yn y modd mwyaf ymroddedig.

Yn nesaf. Ei phrif hyfrydwch oedd eu meithriniad crefyddol. Yma yr ymddangosai yr hyn ydoedd heb un gorchudd i guddio ei theimladau, ac y defnynau i'w meddyliau tyner wersi crefyddol a moesol am Grist, a'r drefn i achub pechaduriaid colledig, a pha fodd i rodio a boddloni Duw - y pethau oedd o fawr hyfrydwch iddi ei hun, ac a hoffai eu harfer, yr hyn ni allant byth eu hanghofio. Un ymadrodd o'r Bibl (yr hwn oedd yn werthfawr iddi ei hun, ac yn ffynhonell ei holl hyfforddiadau) a argraffodd yn annilêadwy ar feddwl ei phlant, (yn enwedig un o honynt,) fel ag y bu, yn ddiamheuol, yn foddion yn llaw Rhagluniaeth ddaionus yn fynych i attal ei ynfydrwydd anochelgar - llais mam yn sibrwd yn ei feddwl, 'Ti, O Dduw, Wyt yn edrych arnaf fi,' (Gen. xvi. 13,) a fu fwy nag unwaith yn amddiffyn iddo rhag cyflawni gweithred amheus.

Hefyd, tuag at helaethu a chynnyddu eu cof, arferodd lawer o lafur a diwydrwydd. 'Nid oeddwn,' meddai un o honynt, 'dros 6 mlwydd oed pan y dysgwylid genyf adrodd, o'r hyn lleiaf, pa le y byddai testyn y pregethwr a wrandawn, a rhai o'r materion a drinid; a gwrandawn fel am fy mywyd er mwyn gallu adrodd yr hyn a ofynid i mi. Bu hyn yn gymhorth mawr i mi ar ôl tyfu i fyny, trwy gael fy meddyliau yn moreu fy oes i gydgyfarfod (concentrate) i ymroddi i geisio cofio pregethau pan draddodid hwynt; ac wrth ddilyn yr athrylith hon, cryfhaodd fy nghof', a daeth mor afaelgar, fel y gellais yn fynych gofio darlithoedd ar fferylliaeth, neu ryw bethau ereill, yn eu holl gysylltiadau, pa rai a fyddai yn ddyrys, llawer o'r cyfryw a ysgrifenais yn gyflawn ar ol myned adref'

Un nodweddiad arall a goffaf, sef ei gofal manwl am gadw y Sabboth yn sanctaidd. Arferai bob nmser godi yn foreuach y dydd Sabboth na dyddiau ereill, er boreued y codai ddyddiau yr wythnos. Gwnai bob ymdrech hyd eithaf ei gallu i wneyd pob un o'i theulu yn siriol a chysurus; ac wedi parotoi y plant, ar ôl y weddi deuluaidd, elent i'r ysgol, a ni a hwythau i ddwy bregeth y diwrnod, a hwythau ddwy waith i'r ysgol; a byddai dau gyfarfod Cymreig genym yn fynych pan oeddym yn Albany. Ni oddefai i'r plant siarad am ddim bydol, na darllen un llyfr na fyddai er adeiladaeth fuddiol; ac mor eiddigus oedd am iddynt ddilyn yr arferind yma, fel y gwrthwynebai yn eu gwyneb bwy bynag a gynnygiai droseddu yn ei thý' y gorchymyn sanctaidd hwn, a mynych y cafodd achos i hyny. Wylodd lawer wrth weled crefyddwyr mor ddibarch o'r Sabboth, mor benrhydd yn eu geiriau a'u hymddygiadau. Yr wyf yn cofio yn dda am ddau dro nodedig y bu yn gwrthwynehu yn eu hwynebau weinidogion yr efengyl o'r fath ag oeddynt, ond yr oedd ganddi y fath ddull llednais i ddywedyd, na byddai braidd neb yn tramgwyddo wrthi. Ac nid llawer llai ei gofid a fu yn y ddinas hon, o herwydd penrhydd-did proffeswyr diofn Duw ary Sabboth. Cafodd y fraint am faith flynyddoedd yn Albany, i lettya cenhadon yr Efengyl, ac i fod i ryw radd bychan o amgeledd iddynt ar eu teithiau pan y galwent gyda ni; a braint aruchel y cyfrifai hyn yn ôl ei sefyllfa, fel y gwyr amryw frodyr o bob enwad crefyddol yn mysg ein cenedl. Yr oedd ei dymuniad yn helaethach na'i moddion; ond gallaf ddywedyd hyn am dani, 'Yr hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth.' Yr oedd yn lled iach drwy ei hoes, a bywiog iawn, a gwrol ei meddwl dan brofedigaethau. Bu yn foddion effeithiol yn llaw Rhagluniaeth i gynnal fy meddwl i rhag ymollwng mewn llawer profedigaeth.

Dechreuodd yr afiechyd a aeth â hi i'r bedd i raddau cyn ein dyfodiad i'r ddinas hon, yr hyn fu yn nechreu Mai, 1842. Ond yn ebrwydd ar ôl dyfod yma ymaflodd ynddi fel gŵr arfog, fel nad wyf yn meddwl iddi gael diwrnod iach byth mwy. Rhyw ddyryswch yn mheiriant y cylla ydoedd gwreiddyn ei salwch. Yr effaith ydoedd poen fawr oddeutu pwll ei chylla, a rhyw flas brwnt yn barhaus yn ei genau, fel y ffieiddiai ei bywyd hi fara, a'i henaid fwyd blasus. Darfu ei chnawd allan o olwg. Ni welwyd yr un yn nemawr waelach na hi yn cael ei rhoi yn y bedd. Pe rhyw les a fuasai medrusrwydd physygwyr, cafodd bob chwareu teg, fel y bu ddwy flynedd a thri mis beth bynag, na fu ddiwrnod heb gymeryd moddion physygwr yn eithaf ffyddlon. Ond yr oedd yr amser terfynedig yn dirwyn i fyny, a bu angeu yn well physygwr iddi na holl physygwyr y byd, er tristwch mawr i ni, ond elw mawr iddi hi.

Fel y cafodd y fraint, trwy ras, i fod yn ddiwyd a ffyddlon yn ei bywyd yn ngwinllan ei Harglwydd, ni adawodd Efe mo honi yn ei chystudd. Cafodd y gras o amynedd yn nodedig i ddal trwy ei holl gystudd heb unwaith rwgnach na chwyno nemawr iawn : ac nid hyny yn unig, yr oedd ambell belydryn yn llewyrchu ar ei meddwl gwan i fyny, ond tua diwedd ei gyrfa cryfhaodd ei ffydd, ac adnewyddwyd ei gobaith. Llewyrchodd y geiriau hyny yn o danbaid ar ei meddwl,' A gwaed Iesu Grist, ei Fab ef, sydd yn ein glanhau ni oddiwrth bob pechod.' Mynych yr adroddodd y geiriau hyny gyda gwên siriol. Dywedai, 'Yr wyf yn meddwl fy mod yn ymddiried ynddo ef. Y mae ef yn ddigon i mi.' Ychydig cyn ei hymadawiad gofynodd ein merch iddi, pa fodd yr oedd arni - a oedd ei gobaith yn dal y pryd hyny? Atebai, yn siriol, 'Oes, y mae genyf obaith da, trwy ras.' Ac felly ymadawodd mewn tangnefedd - hunodd yn yr Iesu. Tebygwn na welais erioed eglurhad mwy amlwg o'r geiriau hyny, nac yn ei marwolaeth hi, Ni frysia yr hwn a gredo.'Bu farw nos Sadwrn, Hydref y 26ain, ychydig wedi wyth ar gloch. Ymgasglodd cryn dyrfa o'n cenedl yn nghyd ddydd Mawrth, y 29ain, i hebrwng ei rhan farwol i'r bedd. Cyflawnodd ein Brawd William Rowlands wasanaeth y gladdedigaeth yn y tŷ ac wrth y bedd. Ei hoedran pan fu farw ydoedd tri-ugain mlynedd ac wyth mis.

Claddwyd hi wrth ochr yr hen frawd parchedig Shad- rach Davies.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Rhagfyr 1844.