MR. MEYRICK HUGHES. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Hydref 28ain, 1871 yn Utica, New York, Meyrick Hughes, yn 45 mlwydd oed.Brodor oedd Mr. Hughes, o'r Rhyd-uchaf gerllaw y Bala.
Ymfudodd i America yn 1849.
Ymbriododd â Miss Ellen Lloyd o'r Pandy, Llanuwchllyn yu 1860 yr hon sydd wedi ei gadael yu weddw gyda thri o blant.
Yr oedd yn ddyn caredig, diwyd, gofalus - bu yn gwasanaethu yn y First National Bank, Utica am agos ugain mlynedd. Bu ei feistriaid, y meddygon, a phawb yn garedig iawn iddo ond yr oedd y darfodedigaeth yn drech na phawb.