MRS. CATHERINE HUMPHREYS. PENYCAERAU, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
CHWEFROR 28ain, 1871, yn Penycaerau, yn yr oedran teg o 77ain.Daeth hi a'i theulu i'r wlad hon o Ffestiniog, er ys 40ain mlynedd yn ôl; a sefydlasant yn ardal Penycaerau.
Cafodd yr hen chwaer, hen daith lled ystormus, trwy anialwch y byd; rhy luosog yw y profedigaethau a gafodd i'w nodi allan yma, a chadw at reolau Cofiantau y CYFAILL; ond, er maint yr ystormydd, bu yn ffyddlon hyd angeu, fel y mae heddyw yn etifeddu coron y bywyd. Bu yn edrych ar ôl y Capel am flynyddoedd lawer; ond aeth yn rhy wan ychydig fisoedd cyn marw.
Bu cymydogaeth Penycaerau yu haelionus iawn iddi holl ddyddiau ei gweddwdod, ysbaid 30ain o flynyddoedd, a mwy.
Y golled fwyaf a gafodd ei mab, yr hwn sydd yn fethiantus iawn, ac oddeutu 35 mlwydd oed, heb allu cerdded dim erioed, na helpu dim arno ei hun, na llefaru yn ddealladwy, ond i ychydig sydd wedi arfer ag ef; ond gofalodd ei fam yn dyner am dano - ddydd a nos, hyd angeu. Mae yn awr dan ofal y County, yn hiraethlon am yr hen fam. "Tad yr amddifaid" a ofalo am ei enaid gwerthfawr.
THOMAS WILLIAMS.