PARCH. EDWARD HUMPHREYS. REMSEN, ONEIDA COYNTY, NEW YORK.
Gorphenaf 19eg, 1871, yn Remsen, Oneida County, New York, Parch. Edward Humphreys, gweinidog y Bedyddwyr yn Steuben, swydd Oneida, New YORK, ar ôl maith gystudd sef y darfodedigaeth.Brodor o Lanuwchlyn, Meirionydd, ydoedd. Ymfudodd i'r America yn y flwyddyn 1851, efe a'i deulu lluosog, a sefydlodd yn Remsen a Steuben hyd ddiwedd ei yrfa. Ordeiniwyd ef yn Ainon, Llanuwchlyn, Gorphenaf 8fed, 1847, a sefydlwyd ef yn Steuben yn 1853, a gweinyddodd yno am yn i agos i 18 mlynedd yn was da a ffydlon a hyny ar ychydig, hyd y diwedd - ei oedran ydoedd ychydig dros 66 mlynedd.
Magodd deulu lluosog a gwelodd gladdu amryw o honynt o'i flaen ei farw ei hun, a rhwng y trallodau hyny a thrafferth y byd hwn, suddodd dan y darfodedigaeth a gorphenodd ei yrfa yr un fath ac y buodd byw, yn dawel, siriol, gan lawn ymddiried yn Nghrist a'i ras.
Gadawodd i alaru ar ei ôl ddau o feibion a phedair o ferched ac wyrion, ynghyd a llawer o gyfeillion a chydnabod.
Gweinyddwyd yn ei angadd gan y brodyr M. Roberts, O. F. Parry, Morris Williams a Trogwy. Yr ydoedd amryw o'i frodyr yn y weinidogaeth yn ei gladdedigaeth — cafodd gladdedigaeth barchus, a rhoddwyd ef i orwedd yn ochr gweddillion ei briod yn hen fynwent y Capel Isaf, Steuben, lle y gwasanaethodd.
MORRIS ROBERTS.