MRS. CATHARINE JONES. NEW YORK.

Rhagfyr 8fed, 1871 yn ninas New York, Mrs. Catharine Jones, gweddw y diweddar Mr. Ellis Jones, Teiliwr, yn ei 84 mlwydd oed.

Yr oedd ei mam dduwiol Mrs. Jane Lewis; yn 86 oed pan y bu farw. Yr oedd Mrs. Jones er's amryw flynyddoedd yn cartrefu gyda ei hunig ferch Mrs. Jane Denning, yr hon ydoedd yn dyner iawn o honi a gofalus neillduol am dani. Bu farw dau frawd Mrs. Denning o flaen eu mam.

Brodorion oeddynt oll o ardal Pwlllieli a Llanegan, yn sir Gaernarfon, ac yr oeddynt yn deulu gweithgar, diwyd, tawel, heddychol a dirodres.

Yr oedd Mrs. Jane Lewis a Mr. Ellis Jones yn grefyddwyr selog ac aelodau eglwysig yn Nghapel Broom Street, New York, dan ofal gweinidogaethol yr ysgrifenydd - ac yno yr oedd y teulu oll yn cyd addoli yn dra chrefyddol yr amser hyny.

Ymgasglodd tyrfa fawr o Gymry ac ereill i'r claddedigaeth a gweinyddwyd y gwasanaeth crefyddol gan offeiriaid o Eglwys Loegr - a chladdwyd Mrs.Jones yn wir barchus yn ymyl ei gŵr yn mynwent odidog Greenwood.
J. J. JONES.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ionawr 1872.