MRS. MARGARET MORRIS JONES. ARENA SWYDD IOWA, WISCONSIN.
PRIOD Mr. Thomas Jones, Arena, Swydd Iowa, Wisconsin, yn 35 mlwydd oed.Gadawodd gylch helaeth o berthynasau chyfeillion; yn nghyd a phriod a 6 o blant mewn galar dwys ar ei hôl.
Bu y teulu oll yn glaf o dan ryw fath o afiechyd; ond cafodd hi fod yn iach i ymgeleddu a gwasanaethu ar y rhan fwyaf' ohonynt; o'r diwedd gafaelodd y clefyd, sef, y Lungfever, ynddi hithau yn ffyrnig ac angerddol iawn; a gwnaeth ei waith mewn byr amser.
Yr oedd y drengdig yn ferch i R. Morris, Blue Mounds; ac yn chwaer i'r Parch. O. B. Morris. o Swydd Fillmore, Minnesota. Daethant i'r wlad hon o Tynddol, Festiniog. Yr oedd ei rhieni yn aelodau gyda y T. C. ac yn rhai tra gofalus am addysgiaeth grefyddol eu plant; ac felly cafodd y fraint o'i dwyn i fynu yn grefyddol, ac y mae yn ymddangos i'r addysg dda a gafodd yn nyddiau ei mebyd, lynu wrthi dros weddill ei hoes. Fel y tyfodd i fynu, derbyniwyd hi aelod eglwysig a blagurai rhinwedd a chrefydd yn ei hymarweddiad yn fwy na llawer.
Yr oedd yn mhob ystyr yn ymgeledd gymwys i'w phriod: yr oedd yn gynil, ediwyd, a gofalus iawn am amgylchiadau ei theulu; ac yn y rhan fwyaf o bethau yn ateb i ddesgrifiad Solomon o'r wraig rinweddol. Ni fynai glywed neb yn cael ei ddiraddio yn ei absenoldeb; ond pan dybiai rywun ar fai, meddai ddigon o onestrwydd a gwroldeb i ddweyd wrthynt yn ddifloesgni.
Bu hi a'i phriod yn aelodau gydar T. C. tra y buont byw yn Mounds, ac wedi iddynt symud i Arena, buont yn aelodau o'r Eglwys Saesonig yn y lle, y rhan fwyaf o'r amser.
Yr oedd yn fawr ei gofal a'i phryder am ddysgu ei phlant yn mhethau crefydd, au dwyn i fynu yn ofn yr Arglwydd, Clywsom hi yn adrodd ei phrofiad yn y gyfeillach grefyddol gyda theimlad a llewyrch dymunol lawer gwaith; ond yn nghanol ei dyddiau, ac o ganolnerth ac iechyd, hi a gipiwyd ymaith yn ddirybydd ac anamserol i'n golwg ni, fel y gellir dweyd "Ei haul a fachludoedd tra yr oedd eto yn ddydd."
Yn ei marwolaeth, cafodd ei phlant bychain, a'i phriod, golled anadferadwy; ond gobeithiwn ei fod yn dragywyddol enill iddi hi. "Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd."
Y Sadwrn canlynol ymgynulloedd tyrfa fawr o Gymry a Saeson, i weini y gymwynas olaf iddi; trwy hebrwng ei gweddillion marwol i gladdfa y T. C. ar y Mouods, mewn diogel obaith am adgyfodiad i fuchedd dragywvddol.
Gweinyddwyd ar yr amgylchiad gan y Parch. David Jones, Arena.
GALARUS.