MR. OWEN JONES. WELSH PRAIRIE, WISCONSIN.
CHWEFROR 11eg, 1371, yn Weish Prairie, Wisconsin, Mr. Owen Jones, Hendref, yn 67 mlwydd oed. Cancer oedd ei ddoler. Bu yn dyoddef oddi wrtho ugain miynedd yn ôl.Tybiwyd am hir amser ei fod wedi cael llwyr ymwared oddi wrtho; ond tebygol nad felly yr oedd. Dyoddefodd lawer triniaeth gan wahanol feddygon. Ni arbedwyd na thrafferth na thraul i geisio ymwared. O'r braidd na raid cydnabod, mai pa fwyaf fyddai'r ymdrech, mai lleiaf fyddai'r llwyddiant.
Yr oedd ei waith yn myned i Philadelphia llynedd, i fyned dan operation, yn dangos y fath afael sydd mewn bywyd, ac ar can lleied peth y medr gobaith fyw; ac er i'r dolur yn allanol, leddfu peth dan y driniaeth gelfydd yno, cryfhau ei afaelion yu y cyfansoddiad yr ydoedd yn barhaus. Wrth ei fod yn cael llawer o boen yn y misoedd diweddaf, yr oedd ei gyfeillion goreu, ac yntau ei hun heíyd, wedi myned i deimlad dyeithr megys.
Ofnid, nid iddo farw yn fuan ond y gorfyddai iddo fyw am gryn amser. Ond yn ôl ei ddymuniad cafodd ymwared. Gollyngwyd ef yn dawel, braidd heb yn wybod iddo ei hun, ac yn gynt nac y disgwyliai, os ychydig ddyoddefodd fwy nac ef yn eu marwolaeth.
Yr oedd Owen Jones yn enedigol o Penmachno, ond tua Llanlyfni y treuliodd lawer o'r rhan gyntaf o'i oes; yno y cafodd wraig, ac yno hefyd y cafodd grefydd.
Mae ei briod yn ferch i'r hen Gristion ffyddlon ac adnabyddus hwnw, John Roberts, Hendref, Llanllyfni.
Yr oedd Owen Jones yn un o'r fintai ddaeth i'r gymydogaeth hon yn lled gynharol. Yn mysg pa rai yr oedd cryn nifer o bobl dda iawn - diwyd, gonest, diddichell, a chrefyddol; a chydnebydd pawb ei fod ef yn y rhestr flaenaf, gyda golwg ar y rhinweddau gweithfawr a phrinion hyn. Er fod dyfodiad diweddarach, a hiliogaeth yr hen sefydlwyr, yn meddu mantais i ragori mewn rhai pethau; ofnir, ie, daroganir eu bod yn ôl mewn pethau eraill, sydd yn hanfodol i lwyddiant. ac yn adduru i gymdeithas.
Anfynych y gweiwyd y darlun hwnw yn gyflawnach yn neb nac yn Owen Jones. Y dyn oddi allan yn llygru, a'r dyn oddi fewn yu adnewyddu o ddydd i ddydd. Barn, teimiad a thystiolaeth y dorf fawr oedd yn ymgynull i'w gladdedigaeth, ydoedd; na hebryngwyd gweddoillion cywirach dyn i unrhyw fynwent ers cryn amser, ac na wneir yn fuan chwaith.
Gadawodd weddw a phump o blant,i alaru ar ei ôl; ac er fod ganddynt gartref llawn, mae yno le gwag yn awr na lenwir. Nawdd Duw Hollalluog "Tad yr amddifaid, a Barnwr y gweddwon" fyddo iddynt hyd byth.
CYFAILL.